Agorwydd Cronfa Ddŵr brydferth Pontsticill neu Gronfa Ddŵr Taf Fechan yn wreiddiol ym 1927 er mwy darparu dŵr i’r rhan helaeth o Gymoedd De Cymru.
Mae’r ochr 110 troedfedd o uchder yn dal yn ôl 15,400 megalitr o ddŵr.
Mae’r gronfa ddŵr yn boblogaidd â morwyr https://www.mtsc.org.uk/index.html, pysgotwyr https://www.mtaa.co.uk/ a phobl sydd am fwynhau picnic.
Tir Claddu Taf Fechan – Capel Bethlehem
Agorodd Capel Annibynnol Bethlehem, sydd bellach wedi ei foddi gan Gronfa Pontsticill ei drysau ar Chwefror y 4 1829. Y gweinidog cyntaf oedd William David, cyn pregethwr lleyg ar Gapel Ynysgau. Am 90 mlynedd bu’r gynulleidfa fechan ond llewyrchus hon yn cwrdd, ond erbyn 1913 gyda’r bwriad i adeiladu'r gronfa ym Mhontsticill, symudwyd y cwrdd i ganol pentref Pontsticill. Cynhaliwyd gwasanaeth cloi yn yr hen Gape lar Fedi’r 14 1925 ac agorwyd y capel newydd.
Erbyn 1968, gyda’r gynulleidfa yn gostwng gwerthwyd y capel at ddefnydd preifat.
Mae adfeilion enigmatig yr hen gapel yn codi o dro i dro wrth i lefel y dŵr ostwng ar adegau o sychder.
Symudwyd y rhan fwyaf o’r claddedigaethau i dir claddu newydd wedi ei ddarparu gan Fwrdd Dŵr Taf Fechan ym Mhontsticill, Faenor yn 1926.
