Neidio i'r prif gynnwy

Dolygaer

Wedi’i leoli yn ne Bannau Brycheiniog, mae’r dirwedd fynyddig wych yn amgylchynu Cronfeydd Dŵr Pen-twyn (Dol-y-gaer) a Thaf Fechan (Pontsticill).

Mae’n lleoliad sydd yn llawn hanes ac mae’r gaer o’r Oes Haearn a’r twmpath o’r Oes Efydd ymhlith rhai o’r lleoliadau sydd i’w gweld o hyd. 

 

Roedd yma orsaf reilffordd ar un adeg (1863 – 1964) yn gwasanaethu pentrefan Dol-y-gaer sydd yn awr yn rhan o Ganolfan Sgowtiaid Plas Dolygaer ac yn Safle Gwersylla, y drws nesaf i Ganolfan Weithgareddau Parkwood Dolyager a Thaith Taf. (Llwybr seiclo NCN 8).

Heddiw, mae mwynhau’r golygfeydd gwych a llonyddwch y dŵr yn ei gwneud hi’n anodd dychmygu’r llun a ddarlunnir yn yr erthygl hon yn y Cardiff Times ar 3 Gorffennaf 1869.  (Diolch i https://www.merthyr-history.com)

 

Dydd Iau, yr wythnos diwethaf, daeth Clwb Hwylio Regatta Merthyr Tudful i Lyn Dolygaer. Roedd y tywydd yn ffafriol; yn olau, cynnes a gwnaethpwyd trefniadau cyfleus ar gyfer gwasanaethau trenau Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr. Roedd torf eang o bobl gerllaw’r llyn, yn gynnar yn y dydd. Roedd trenau hefyd yn gwasanaethu o Aberhonddu, Caerdydd a Chasnewydd a chyfrifwyd fod bron i 8000 o bobl yn bresennol.  

 

Dol y gaer – dôl/cae gerllaw afon. Mae ‘caer’ yn cyfeirio at gastell.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024