Cafodd y bont ddŵr neu draphont dros Afon Taf ei hadeiladu fel rhan o Reilffordd Cledrau Sengl Cwm Taf, Isambard Kingdom Brunel a hynny er mwyn cysylltu Merthyr Tudful â’r dociau yng Nghaerddydd. Cafodd y bont ei hagor ym 1841.
Mae’r bont reilffordd hynafol hon yn 32.3 metr o uchder ac mae ganddi chwe bwa; pob un ohonynt â rhychwant sydd yn 15.2 metr ar bileri wythonglog. Mae’r bwa mwyaf gorllewinol yn pontio hen Dramfordd Merthyr (cwblhawyd ym 1802,) ac sydd yn awr yn rhan o Daith Taf (llwybr seiclo NCN 8.)
Heddiw, mae’n adeilad Gradd II* rhestredig yna’n un 'o'r pontydd mwyaf anhygoel gan Brunel i oroesi yng Nghymru.'
Darganfod rhagor -
http://www.engineering-timelines.com/scripts/engineeringItem.asp?id=1398