Bythynnod Trewiliam
Teras o dai diwydiannol ar lethrau’r bryn, islaw Castell Cyfarthfa ac yn wynebu Afon Taf a chyn gwaith haearn Cyfarthfa. Maent yn enghraifft bwysig o gartrefi cynnar y gweithwyr a dyma’r rhes hiraf o dai diwydiannol sydd yn dal i fodoli yn eu cyflwr gwreiddiol. Maent yn Adeiladau Gradd ii Rhestredig.
Cafodd Trewiliam, Cae-Pant-Tywyll, Ffynnon Tudful a Thref Forgan eu datblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif fel anheddiad ar gyfer Gwaith Haearn Cyfarthfa. Erbyn 1814, roedd yr anheddiad yn cynnwys rhesi byr o fythynnod ar y naill ochr i Ffordd Aberhonddu gan gynnwys Sgwâr y Castell (Lle’r Pandy,) y tollty, Rhes y Chwarel a Stryd Bethesda. Roedd yr anheddiad wedi’i gwblhau, bron iawn erbyn 1836.)