Neidio i'r prif gynnwy

Gwarchodfeydd Natur

Taf Fechan

Mae’r warchodfa natur yn ardal sy’n ymestyn am 2.5km ac yn geunant o galchfaen coediog lle mae Afon Taf Fechan yn llifo rhwng pontydd Pontsarn a Chefn Coed i’r gogledd o Ferthyr Tudful.

Mae’n gorwedd gerllaw ochr ddwyreiniol llwybr poblogaidd Taith Taf. Mae’r warchodfa yn cynnwys rhan helaeth o’r ardal a adwaenir fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Coetir Cwm Taf Fechan. 

Ecoleg

Mae gwerth naturiaethol pwysig i’r warchodfa ac mae’n cefnogi fflora a ffawna anghyffredin.

 

Ar lan orllewinol yr afon, gallwch weld poblogaeth dda o’r galdrist lydanddail, yn ogystal â’r bisgwydden dail bach. Yn ychwanegol, mae ardaloedd eang o lastir pori calchfaen, rhai â rhedyn a llawer o fioledau sy’n darparu cynefin cynaliadwy ar gyfer brithegion arian.

 

Mae’r lan ddwyreiniol yn cynnwys nifer o bistyll sydd â dyddodion Twffa ac mae mur chwarel Gurnos wedi ei ddatblygu’n helaeth ac yn cynnwys ansoddion ac ogofau sy’n debygol o fod yn gartref i ystlumod.

  

Mae gan y warchodfa amrywiaeth eang o gynefinoedd, dŵr glân, croyw sy’n llifo’n araf a chyflym, coetir collddail agored a thrwchus; glastir calchog ac asidig; wynebau clogwyni o galchfaen a hen furiau a phistyll twffa. 

 

Yn aml, gwelir arwyddion o ddyfrgwn ac mae’r afon yn cefnogi adar tebyg i fronwen y dŵr a’r siglen lwyd. Gwelir yr hwyaden ddanheddog yn aml yn ystod y gaeaf a thystiolaeth yn aml o bresenoldeb moch daear.

Daeareg

Crëwyd y ceunant gan afon ifanc y Taf Fechan sy’n torri i garreg frig ogleddol y calchfaen carbonifferaidd gan ffurfio ffin ogleddol maes glo De Cymru.  

 

I’r dwyrain o Ystâd Trefechan ceir rhan drawiadol iawn. Mae daeareg yn amlwg iawn, yn enwedig yn chwarel Gurnos. 

 

I’r de o’r chwarel, graean maen melin yw’r graig is. Ar safle pont ffordd Blaenau’r Cymoedd, ceir blociau crwybr o dywodfaen, nod haenlin sy’n digwydd ar ffin parth S / parth D mewn calchfaen carbonifferaidd dros ardal eang o gnwd gogleddol y maes glo.

 

Mae’r cerrig brig o dywodfaen ar frig y wyneb fertigol, i’r de o glogwyn chwarel Gurnos. Mae rhan helaeth o’r safle, i’r gogledd o’r bont ffordd yn cynnwys cyfres calchfaen carbonifferaidd Cil yr Ychen. Mae’n ffosilifferaidd gyfoethog ac yn cynnwys brachiopodiau (seminula), productidiau, cwrelau a gastropodiau (gan gynnwys Euomphalus).

Diddordeb Hanesyddol

Pont Sarn ger y Pwll Glas (Pont-sarn-hir - pont y ffordd hir) yw safle’r lle mae’r ffordd Rufeinig yn croesi o’r Gaer yn Aberhonddu i’r gaer arfordirol yng Nghaerdydd. O’r bont, roedd yn mynd trwy Gurnos tuag at Barc Penydarren ac ymlaen i Gelligaer.

 

Gwelir olion hen felin ŷd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ar lan ddwyreiniol  rhan fwyaf gogleddol y warchodfa ac mae’n un o bedair melin a leolwyd yng nghwm Taf Fechan. Mae’r maen melin wreiddiol a ddefnyddiwyd i falu’r graean gerllaw. 

 

Yn bellach i lawr yr afon, mae olion melin y pannwr (y pandy) at y lan orllewinol, i’r gogledd o’r bont bren. Gwehyddion adnabyddus teulu’r Harris oedd perchnogion y ddwy felin.

 

Roedd chwarel y Gurnos yn darparu calchfaen ar gyfer ffwrneisi Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa. Wedi i’r Gweithfeydd Haearn gau, plannwyd detholiad o goed pîn yn y chwarel ac mae rhai dal i’w gweld ar frig y clogwyn.

 

Mae’r dramffordd yn rhedeg i’r de o’r chwarel, gerllaw’r Taf a heibio i bont Cefn Coed. Cafodd ei hymestyn er mwyn cwrdd â chamlas newydd Sir Forgannwg yn  1792. Roedd yn darparu’r holl galchfaen a oedd ei angen ar gyfer Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa ac mae’r cerrig sy’n ffurfio sylfaen ar gyfer cledrau’r dramffordd yn  Heneb Restredig yn ogystal â chamlas Cyfarthfa sydd wrth ochr y dramffordd. 

Penmoelallt

Mae Coetir Cymunedol Penmoelallt yn cael ei reoli ar y cyd gan Gymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Cylch a Cyfoeth Naturiol.

 

Mae’r ardal yn goetir Calchfaen naturiol sydd o bwysigrwydd mawr yn sgil presenoldeb rhywogaeth brin iawn o’r Gerddinen Wen. Dim ond ar un safle arall y medrwch ddod o hyd i Gerddinen y Darren Fach neu’r Sorbus leyana. Gellir dod o hyd i’r rhywogaeth ar ardaloedd silffoedd a chlogwyni’r safle ynghyd â sbesimenau 10 metr o uchder o’r Sorbus rupicola. Mae’r safle hon yn safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig. (SSI)

 

Gellir cyrraedd y coetir o’r A470, ger Cefn Coed. 

Cilsanws

Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr a’r Cylch yw perchnogion Gwarchodfa Natur Cilsanws ac mae’n gwbl agored i chi allu ei harchwilio a’i mwynhau.  

 

Mae ambell ffordd wahanol y gallwch gyrraedd yr ardal hon sydd wedi ei lleoli ar ochr dde gorllewinol Mynydd Cilsanws.

 

Drwy deithio trwy bentref Cefn Coed, tuag at Drefechan, gallwch gyrraedd y warchodfa ar hyd Lôn y Neuadd Frethyn a Maes Parcio Clwb Golff Merthyr Tudful.

 

Mae coed llarwydd a phinwydd yr alban yn tyfu ar hyd ffiniau gorllewinol y warchodfa a cheir coed mwy anghyffredin fel y griafolen a’r onnen ar y tir uwch. Mae’r griafolen yn denu rhywogaethau tebyg i’r brych, y ddrudwen a’r aderyn du ac y mae’r coblyn, y wennol, gwennol y bondo, y bwncath a’r cudyll coch yn aml i’w gweld.

 

Os ydych yn lwcus, gallwch gael cipolwg o hebog tramor prin yn hedfan heibio.

 

Mae mamaliaid yn swil ond yn bresennol - mae llygoden y maes, y llygoden bengron goch a’r llyg cyffredin yn byw yn y warchodfa a cheir digonedd o drychfilod a gloÿnnod byw sydd mor bwysig er mwyn cadw cydbwysedd y warchodfa.

Comin Geligaer

Er gwaetha’r ffaith fod y gaer, ar yr olwg gyntaf yn ymddangos yn ddiffaith, mae mwy o lawer yn perthyn i Gelligaer.  Mae ei hanes cymhleth o ffaith a chwedl wedi gadael olion Rhufeinig a Chanol Oesol diddorol. Ymysg yr uchafbwyntiau mae tomen gladdu megalithig yng Ngharn Bugail, Maen Cen Gelligaer a gweddillion Capel Gwladys, sef mam y Merthyr, Tudful sef tarddiad yr enw, Merthyr Tudful.

Pwll Webber

Gerllaw Coetir Parc Gethin mae gwarchodfa Pwll Webber. Perchnogion a rheolwyr Pwll Webber yw Cymdeithas Naturiaethwyr Merthyr Tudful a’r Cylch.

 

Yn ystod y gwanwyn a’r haf daw’r pwll i fywyd - gwelir gwas y neidr, amffibiaid a blodau gwyllt yn eu hanterth. Gall y sawl sy’n mwynhau gwylio adar weld y telor, y golfan, cnocell y coed a glas y dorlan. Yn y gaeaf, gellir gweld y llinos bengoch a’r pila gwyrdd yn yr ardal.

 

Mae llwyfannau dipio sy’n addas ar gyfer plant ac ardaloedd pysgota yn cynnig diwrnod gwych allan i deuluoedd a gellir parcio wrth law trwy ddilyn y troad ar gyfer Gethin o’r A470 ym Merthyr Tudful.

 

Rheolir y coetir gan y Comisiwn Coedwigaeth sy’n ceisio amddiffyn tir pori’r rhos (glastir garw a chorsiog.)

 

Coetir Gethin yw safle datblygiadau Beicio Mynydd cyffrous y dyfodol a fydd yn eich galluogi i gael mynediad i Bwll Webber ar ddwy olwyn yn hytrach na phedair olwyn erbyn diwedd 2013.

 

Roed yr ardal unwaith yn rhan o Waith Glo Gethin a oedd dan berchnogaeth Cwmni Haearn Cyfarthfa. Adeiladwyd y pwll er mwyn cyflenwi dŵr ar gyfer Glofa Rhif 2, Gethin ac roedd ganddo dŷ ar gyfer gwarcheidwad y pwll. 

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024