Neidio i'r prif gynnwy

Gwynno Sant ac Eglwys y Faenor

‘Duw, maddau i’m’

Teithiwch i frig mynydd anghysbell ger Pontsticill i Eglwys Gwynno (a adwaenir yn well fel Eglwys y Faenor,) a dewch o hyd i fedd y meistr haearn, Robert Thompson Crawshay. Sicrhaodd fod eglwys wreiddiol Gwynno Sant yn cael ei hailadeiladu ym 1870 wedi i’r eglwys ganoloesol, wreiddiol losgi i’r llawr yn ystod brwydr Maes y Faenor ym 1291ac i’r adeilad a godwyd yn ei le fynd â’i ben iddo.

 Mae bedd Crawshay yn cynnwys carreg faen enfawr a dybir i fod yn pwyso 10 tunnell. Arni, mae’r arysgrifen;‘God forgive me’. Mae nifer o haneswyr wedi dehongli ei arwyddocâd.

Eglwys y Faenor

Olion eglwys blwyf wreiddiol y Faenor a gyflwynwyd i Wynno Sant ac a losgodd i’r llawr ym mrwydr Maes y Faenor ym 1291. Yr hyn sydd yn weddill yw’r ochr orllewinol gyda’i dyrrau a’i ragfuriau. Aeth yr adeilad â’i ben iddo ac ailadeiladwyd eglwys newydd ym 1870 gan un o feistri haearn Merthyr Tudful, Robert Thompson Crawshay.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024