Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw ceidwad 619 erw o dir agored sydd dan berchnogaeth gyhoeddus. Credwn ei fod yn bwysig edrych ar ôl, diogelu a datblygu ein parciau a’n tir agored cyhoeddus o Barc Cyfarthfa i’r meysydd chwarae bychain sydd ar drothwy ein drysau yn ein hardaloedd preswyl.
Mae’n parciau, caeau chwarae, ardaloedd chwarae a’n safleoedd ysgol oll yn ychwanegu at y rhwydwaith o fannau gwyrdd sy’n cyfrannu at gymeriad y Fwrdeistref Sirol. Maent yn meithrin balchder lleol ac yn gwneud cyfraniad allweddol at ddelwedd y Fwrdeistref Sirol.
Mae parciau a mannau agored yn bodoli er budd pawb a bydd defnydd a mwynhad ein mannau cyhoeddus yn sicrhau eu llwyddiant yn y dyfodol. Mae amseroedd wedi newid ac mae disgwyliadau pobl yn uwch o lawer nac o’r blaen. Mae yna alw bellach ar gyfer y teulu cyfan; ar gyfer pobl ifanc, oedolion a phobl hŷn. Rydym yn darparu cyfleusterau amrywiol ledled y Fwrdeistref Sirol gan gynnwys 5 Parc Hamdden, 32 maes chwarae, 5 llain fowlio a 57 ardal chwarae.
Parc Treharris
Agorodd Parc Treharris ei gatiau fel safle hamdden a phleser yn 1912. Mae’r parc yn gartref i ardal chwarae i blant, pwll padlo, safle band, llain fowlio, pafiliwn, maes pêl-droed a llawer mwy. Mae gan y parc sbesimenau gwych o goed conwydd a masarn, sydd ar y cyd â’r gwelyau o blanhigion sydd i’w plannu allan a’r llwyni yn amlygu harddwch naturiol y parc trwy fisoedd yr haf.
Amseroedd Agor
1 Ebrill – 30 Medi:7 diwrnod yr wythnos 10am - 5.30pm1 Hydref – 31Mawrth:Ar gau ar Ddydd LlunDydd Mawrth - Gwener 10am - 4pmDydd Sadwrn a Sunday Canol Dydd - 4pm
Parc Thomastown
Mae Parc Thomastown yn gartref i oddeutu 17 erw o barcdir sydd wedi ei leoli i’r dwyrain o Ganol Tref Merthyr Tudful.
Adwaenir y parc, yn lleol fel llecyn hardd ac mae’n gartref i safle band, llain fowlio, tri chwrt tenis arwyneb caled, cyfleusterau chwarae i blant a phwll padlo sydd ar agor yn ystod misoedd yr haf.
Mae’r parc hwn â’i osodiad hardd yn cynnig teithiau cerdded heddychlon sydd â golygfeydd o’r ardal a’r wlad sydd yn ei amgylchynu.
Parc Newland
Y parc, sydd drws nesaf i Stryd Fawr Penydarren oedd cartref Tomen Wen Dowlais sef un o domennu enwocaf a hynaf y dref. Gelli ei holrhain yn ôl i ddyddiau cynnar cynhyrchu haearn ddiwedd y 18fed ganrif.
Mae’r paneli dehongli yn darparu gwybodaeth ar hanes y parc hyd y dydd heddiw. Mae yn awr yn ardal atyniadol a chanddo bedwar Ffordd Dramwy Gyhoeddus sy’n darparu llwybrau dinesig, hawdd i’w defnyddio ac yn rhoi cyfle i chi fwynhau rhai o olygfeydd Merthyr Tudful.
Mae’r parc hefyd yn gartref i flociau coetir, glastir, dau bwll a dwy ardal o dir gwaun sy’n cael eu datblygu. Mae maes parcio bychan gerllaw’r safle a dwy safle bws sy’n gwella hygyrchedd ar gyfer y sawl nad yw’n byw gerllaw.