Dechreuwyd adeiladu Rheilffordd Cwm Nedd ym 1847 i gysylltu Merthyr Tudful â phorthladdoedd Castell Nedd ac Abertawe a gorffennwyd ar y gwaith i Ferthyr ym 1853.
Peiriannydd y rheilffordd oedd Isambard Kingdom Brunel (1806-1859). Roedd ‘Pont Sgiw Rhydycar’ yn cludo’r rheilffordd ar dir uchel ar draws Camlas Sir Forgannwg, sef Llwybr Taf yn awr.
Mae’r Adeilad Gradd II Rhestredig yn Nhroed-y-Rhiw ym Merthyr Tudful wedi ei restri fel pont reilffordd anarferol a phwysig gan y peiriannydd rheilffordd blaengar yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.