Chwaraeodd De Cymru ran bwysig yn natblygiad haearn bwrw strwythurol. Yma, yng Nghyfarthfa mae yna strwythur haearn bwrw sydd yn hynod arwyddocaol, nid yn unig o achos ei gynllun dyfeisgar a’r ffaith ei fod yn cario tramffordd a chafnau dŵr ond am mai dyma bont rheilffordd haearn bwrw hynaf y byd.
Fel yr awgryma’r Gymraeg, daw tarddiad yr enw ‘Pont-y-Cafnau’ o’i bwrpas yn hytrach na’i leoliad.
Awdurdodwyd adeiladu’r bont yn Ionawr 1793 ac mae bron yn bendant, yn waith gan Watkin George (1790-1811,) peiriannydd Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa. Mae’n croesi Afon Taf, islaw cydlifiad y Taf Fawr a’r Taf Fechan ac mae ganddi rychwant sgwâr sydd yn 48 troedfedd (14.63 metr) ac mae lled y dec yn 8 troedfedd (2.43 metr.) Arferai’r dŵr yr oedd yn ei chario bweru olwynion dŵr y gweithfeydd haearn gydag un cafn wedi ei leoli yn nec y dramffordd a’r llall, sydd wedi hen fynd ei leoli uwch ei ben. Arferai’r dramffordd a oedd yn 4 troedfedd (1.21 metr) gludo calchfaen o chwarel Gurnos i’r gweithfeydd.
Arferai’r dramffordd hon, sef tramffordd Gurnos redeg ar frig cafn y dec a gariai ddŵr o’r Taf Fechan. Cefnogir hi ar bob ochr gan fframiau haearn bwrw a cheir asiad i ffurfio brenhinbost ynghanol y rhychwant. Ffurfir adeiladwaith ffrâm A sydd â brenhinbost canolog ar y rhan isaf sydd wedi ei gysylltu â’r ffurf lorweddol sy’n cydgysylltu’r ddau gribin. Cefnogir cafn y dec gan dair ffurf draws rhwng y ddwy ffrâm ac o dan gafn y dec. Ychwanegwyd rhwymiadau eilradd yn ddiweddarach i’r strwythur a gellir gweld cledrau cynnar y dramffordd sydd wedi eu cysylltu o hyd â’r dec. Rhwng 1793 ac 1796, adeiladodd George Draphont Ddŵr Gwynne a oedd yn strwythur hir o bren 606 troedfedd (184.70 metr) o hyd ac a groesai’r afon yn uwch i fyny na Phont- y- Cafnau.
Cafodd golygfa o’r draphont ei pheintio oddeutu 1819-20 ac mae’n dangos ei hadeiladwaith drestl sy’n cael ei chefnogi gan gynhalwyr canolog a chynhalwyr ar bob pen iddi. Roedd Traphont Ddŵr Gwynne yn troi’r olwyn ddŵr 'Aeolus' fawr a gynhyrchai awyr oer ar gyfer y ffwrneisi ond daeth hyn i ben yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a’i hepgor gan injan a oedd yn chwythu stêm.
Wrth ymyl Pont-y-Cafnau mae adeilad sydd wedi ei atgyfnerthu â choncrid. Dyma oedd y pwerdy tyrbin dŵr ag iddo gysylltiad pŵer dŵr. Caewyd gweithfeydd haearn Cyfarthfa am y tro olaf ym 1921 ac ym 1928 cafodd y gweithfeydd a’r hawliau dŵr eu gwerthu. Gwelodd Alban Bertie Cousins, peiriannydd y Merthyr Electric Traction & Lighting Company, gyfle i greu ffynhonnell ynni rhad ar gyfer tramiau Merthyr (roedd trydan yn cael ei gynhyrchu gan stêm o ddechrau gweithrediadau’r tramiau ym 1901.)
Yn ystod y blynyddoedd, roedd system y cwrs dŵr wedi esblygu ac roedd dŵr y Taf Fechan yn awr yn ymuno, ar ochr y gweithfeydd haearn o’r afon â ffos gyflenwi o’r Taf Fawr a hynny drwy ddefnyddio seiffon gwrthdroëdig ar draws yr afon. Ym 1929, torrodd Cousins y seiffon gan anfon dŵr y Taf Fawr ar draws yr afon i’r pwerdy lle y defnyddiwyd y dŵr, yn ogystal â dŵr o’r Taf Fechan i yrru’r trybini. Daeth diwedd i dramiau trydan Merthyr ym 1939 ond parhaodd trydan hydro i gael ei gynhyrchu ym Mhont-y-Cafnau hyd 1953.
Er nad yw Pont-y-Cafnau bellach yn cludo dŵr, mae’n parhau i fod ar agor fel pont droed ac ynghyd â’r pwerdy, maent ym mherchnogaeth Cyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful. Mae’r bont yn Heneb Restredig ac yn Strwythur Rhestredig Gradd II.
Cael ei orffen ar hyn o bryd, a chaiff ei ychwanegu yn fuan iawn. Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleuster.