Nant Morlais – The Stinky! / Y Nant Ddrewllyd!
Mae’r darnau hyn o’r ‘Melting Pot’ yn disgrifio hanes Nant Morlais -
Ffurfir Nant Morlais gan nifer o nentydd bychan ar lethrau Twynau Gwynion a Chefn yr Ystrad, drwy Bwll Morlais, ar yr amlinell sydd 560 metr, uwchlaw Pantysgallog a Dowlais. Yn y pellter, saith cilomedr a hanner i ffwrdd, mae’r nant yn llifo 440 metr i lawr i’r cymer ac yn ymuno â’r Taf ym Merthyr Tudful.
Heddiw, gellir gweld rhywfaint o Nant Morlais, y tu ôl i’r Theatr Royal a chofeb Trevithick cyn iddi ddiflannu ym Mhontmorlais, lleoliad un arall o’r pontydd tyrpeg, cynnar.
Yn guddiedig, y tu ôl i Stryd Fawr Uchaf y dref mae un atgof terfynol o orffennol gwledig y nant. Lôn y Felin, neu’n fwy diweddar, lleoliad cyfrinachol ffatri felysion Mr. Fred Bray yw lleoliad y felin ddŵr lle arferai’n cyndadau falu’r ŷd a dyfai yng nghaeau’r ffermydd lleol.
Er bod yr hen adeiladau a’r diffeithwch cyffredinol a arferai nodi diwedd y nant wedi hen ddiflannu a’u disodli gan faes parcio ac adeiladau dinesig, mae rhan helaeth o Domen Abermorlais yn bodoli o hyd ac yn dynodi’r man lle y mae Nant Morlais yn ymuno â’r Taf. Er bod y mwyafrif o’r dŵr yn llifo’n danddaearol, a hynny yn sgil datblygiadau dynol, diweddar, mae’r ‘Stinky / y Nant Ddrewyllyd’ fel y’i gelwid wedi’i gwaredu o hen wynt afiach a drewdod y gorffennol.
Gellir dod o hyd i ‘The Melting Pot’ – gwefan sydd yn olrhain Treftadaeth a Diwylliant Merthyr Tudful yn https://www.merthyr-history.com/?p=4632