Neidio i'r prif gynnwy

Sgwâr Llys Janice Rowlands Square, Eglwys Santes Tudful, Ffynnon Robert a Lucy Thomas

Ailddatblygwyd gwaelod y Stryd Fawr ar Stryd Gilar yn 2013 fel lleoliad digwyddiadau o amgylch Eglwys St Tudful a Ffynon Goffa Lucy Thomas

Sgwâr Llys Janice Rowlands Square

.Ailenwyd y lleoliad yn Sgwâr Llys Janice Rowlands i goffau a dathlu cefnogaeth ac ymrwymiad y Fonhesig   Rowlands, gwraig y cyn aelod seneddol dros Ferthyr Tudful a Rhymni yr Arglwydd Edward (Ted) Rowlands CBE, a oedd yn gefnogwraig angerddol dros sefydliadau cymunedol ar draws y Fwrdeistref Sirol.

Ffynnon Robert a Lucy Thomas

Roedd y ffynnon yn rhodd i drigolion Merthyr Tudful gan Arglwydd Merthyr, Syr WT Lewis ym 1906 a chafodd ei gyflwyno i ‘Gapteiniaid Diwydiant’ - gan gynnwys ei fam-gu a’i dad-cu, Robert a Lucy Thomas, arloeswyr ym masnach glo ager De Cymru.

 

Mae’r haearn wedi ei gerfio’n hardd ac ar un adeg, roedd arno fygiau haearn ar dsiaen er mwyn diwallu angen y cerddwyr sychedig.  

Eglwys Santes Tudful

Adeiladwyd Hen Eglwys y Plwyf, Santes Tudful er mwyn coffau’r fan, ar waelod y Stryd Fawr, lle y cafodd Tudful ei merthyru am ei chredoau Cristnogol. Credir fod rhyw fath o eglwys wedi sefyll ar y fan hon ers bron i 1500 o flynyddoedd. Adeiladwyd yr eglwys bresennol ym 1894 a chafodd ei chynllunio gan J L Pearson a gynlluniodd yn ogystal, Eglwys Gadeiriol Truro.

Celf Llys Janice Rowlands gan Chris Butler

Mae’r gwëith celf hwn yn rhan o’r llawr a chafodd ei gynllunio gan Chris Butler er mwyn dathlu ‘arloeswyr Masnach Lo Ager De Cymru.’Mae’n cynnwys colofnau a meinciau sy’n defnyddio gwrthrychau ac eitemau o natur a chasgliadau o amgueddfeydd sy’n adlewyrchu treftadaeth Merthyr Tudful mewn cyd-destun modern.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024