Ar 21 Chwefror 1804, roedd Merthyr yn dyst i’r daith locomotif trên cyntaf un wrth i ‘Locomotif Penydarren,’ Richard Trevithick deithio i lawr trwy Bentrebach ac ymlaen i Abercynon.
Ni chafodd Trevithick ei fri haeddiannol fel cynllunydd locomotif stêm cyntaf y byd ond mae’r safle hwn ym Merthyr Tudful yn rhan o lwybr treftadaeth, naw milltir o hyd ac mae’n pasio trwy gynefinoedd amrywiol ac yn ddelfrydol ar gyfer cerdded, beicio, cadeiriau olwyn neu farchogaeth.
Platfform Arddangos Llwybr Trevithick (Ynysowen)
Mae’r platfform arddangos integredig hwn, yr ardal eistedd Carreg Pennant a’r panel gwybodaeth efydd wedi’u lleoli ar hyd Llwybr Trevithick yn Ynysowen. Mae’r ardal eistedd yn cynnig golygfeydd panoramig o Aber-fan, y cwm isaf i’r gogledd a Bannau Brycheiniog.