Y Pwll Glas yng Nghwm Glais

Gyferbyn y llwybr Taf o dan Draphont Pontsarn ger Castell Morlais mae Ceunant y Taf Fechan. Mae hwn , fel un o’r rhannau mwyaf prydferth wedi ei ddiogelu fel rhan o Warchodfa Natur Taf Fechan, Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac o fewn Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Cwm Taf Fechan.

 

Mae’r rhan odidog yma yn arwain trwy droadau a sianeli cul wrth i’r afon lifo a disgyn a throelli i’r Pwll Glas.

 

Mae llwybrau ar ddwy ochr y Ceunant gan greu rhan o lwybr cylchog 3.7 milltir. Mae’r ardal yn frith o olion diwydiannol y gorffennol, gan gynnwys gweddillion chwarel galchfaen a melinau ŷd a phandai.

 

Tarddle’r Taf Fechan yw’r ardal o dan gopaon uchaf Bannau Brycheiniog - Pen y Fan a Chorn Du - Pen y Fan and Corn Du. Mae’n troelli ffordd trwy’r mynyddoedd gan lifo trwy bedair cronfa ddŵr pert cyn ymuno â’r Taf Fawr yn y cymer yng Nghefn Coed. Mae yna’n teithio ymlaen trwy dref Merthyr Tudful ac ymlaen i Gaerdydd.