Wedi ei lleoli oddi ar yr A470, bum milltir i’r gogledd o Ferthyr Tudful, saif Canolfan Ymwelwyr Garwnant yng nghalon prydferthwch Fforest Fawr ac mae’n fan cychwyn i deithiau cerdded, llwybrau beicio mynydd i seiclwyr iau a llwybr cwbl hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn a bygis.
Dewiswch o amrywiaeth o lwybrau cerdded, llwybrau darganfod a llwybrau cerfluniau anifeiliaid.
Mae cyfeirbwyntiau o ddechrau hyd ddiwedd y llwybrau cerdded. Edrychwch allan am y panel gwybodaeth ar ddechrau pob llwybr.
Mae nifer o ardaloedd picnic tu allan yng Ngarwnant yn ogystal â chaffi, ardal chwarae i blant a digon o leoedd parcio. Gallwch brynu trwydded bysgota ar gyfer y cronfeydd lleol yma hefyd. Am fwy o wybodaeth ewch at Dwr Cymru.