Gyda dros dros 850 hectar o dir braf Coedtir Gethin yw cartref Bike Park Wales.
O fewn ardal eang o geodtir sy’n ymestyn 1,364 hectar rhwng Merthyr Tudful ac Aberdâr gallwch weld Pwll Webber.Ymysg nifer o fffeithiau diddorol am y lleoliad hwn yw iddo gael ei ddefnyddio fel lleoliad i bennod o Doctor Who.
Mae 21 o lwybrau wedi eu marcio a 14 llwybr ceffylau i’w darganfod yn y coedtir.Os ydych yn cerdded, ar gefn beic neu geffyl neu yn mynd a’r ci am dro mae llawer yma i’w fwynhau. Gyda dros 21cilomedr o lwybrau, tawelwch naturiol y coed a golygfeydd godidog o’r cymoedd a draw I Fanau Brycheiniog, does ryfedd ei bod yn le mor boblogaidd gyda pobl leol, teuluoedd ac ymwelwyr.
Anadlwch yr awyr iach, mwynhewch yr olygfa goediog berffaith neu cofleidiwch goeden hyd yn oed.Bydd yn siwr o wella eich llês corfforol a meddyliol.
I ddarganfod mwy am BikePark Wales cliciwch yma