Neidio i'r prif gynnwy

Dyfrffos Cyfarthfa a’r Dramffordd

Hen gwrs dŵr yw Dyfrffos Cyfarthfa, tua 1000m o hyd o’i ffynhonnell ar lannau Taf Fechan i Lyn Cyfarthfa ac fe’i hadeiladwyd yn wreiddiol i gludo dŵr i’r gwaith haearn hefyd.

 

Adeiladwyd yr hen Dramffordd, sy’n rhedeg islaw’r Dyfrffos, ar silff a naddwyd ar wyneb y graig i gludo calchfaen gan dram a cheffyl o Chwarel Gurnos i Waith Haearn Cyfarthfa. Mae rhodfa o goed yno bellach y gallwch ei dilyn ac oddi yno weld waliau’r Dyfrffos uwch eich pen.

  

Mae Dyfrffos Cyfarthfa a’r Dramffordd yn un o gyfres o deithiau sy’n rhedeg drwy’r fwrdeistref sirol ac sy’n crynhoi hanes yr ardal yn ogystal â chynnig milltiroedd ar filltiroedd o brydferthwch naturiol. Felly, os hoffech fachu’r cyfle i stopio yn un o’r atyniadau antur, i ddysgu am ein hanes, i siopa, i fwyta ac i gysgu neu os hoffech ymlacio am ennyd er mwyn gwerthfawrogi’r golygfeydd syfrdanol, mae’r cyfan oll ym Merthyr.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024