Mae’r llwybr cylchog 3.4k ar lan y gronfa yn gymysgedd o arogl y goedwig fythwyrdd a seiniau tawel y dŵr dwfn glas.
Adeiladwyd cronfa Llwyn Onn yn 1956, yn 150 acer hi yw’r mwyaf o’r tair cronfa yng Nghwm y Taf Fawr.
Mae’r dŵr helaeth yn gynefin gwych ar gyfer bywyd gwyllt fel dyfrgwn, gwyachod yddfgoch, hwyaid llygad aur, hwyaid danheddog a chwtieir.
Mae’n le poblogaidd i bysgotwyr. Gellir prynu trwydded yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant gerllaw yn ogystal â phaned a theisen.
Lluniau trwy garedigrwydd John Dixon a Nigel Forster