Mae rhan o’r Llwybr Celtaidd, sef ‘Llwybr y Tri Pharc’, yn cynnwys tri o barciau darluniaidd Cymru.
Gan ddechrau ym Mharc Gwledig Cwm Sirhywi, bydd y llwybr yn eich tywys dros ddyfrffordd restredig nodedig Hengoed â’i 16 bwa. Edrychwch allan am waith celf 8m o uchder: ‘Yr Olwyn Dramiau’ ar eich ffordd sef tirnod adnabyddus sy’n cynrychioli oes ddiwydiannol sydd wedi hen fynd.
Wrth barhau ar hyd y cwm byddwch yn pasio drwy Barc Penallta, a gerfiwyd o hen bwll glo. Mae golygfeydd ysblennydd ar draws Bwrdeistref Sirol Caerffili i’w gweld o Arsyllfa High Point. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n edrych allan am Sultan, y Merlyn Pwll Glo, sef cerflun ffigurol mwyaf o bridd yn y DU.
Yn Nhrelewis byddwch yn gadael Llwybr Cenedlaethol 47 a dilyn 476 i Barc Taf Bargoed, sef hen ardal fawr lofaol ond bellachun o lecynnau hyfryd llai adnabyddus Merthyr. Parc Taf Bargoed. Ar un adeg roedd yr afon yn ddu, ond bellach mae’n hafan i’r trochwr a’r sigl-i-gwt ac mae glannau glas yr afon yn gyrchfan perffaith am bicnic. Mae’r llwybr hefyd yn mynd heibio Canolfan Ddringo Trelewis, sy’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau o ddringo dan do i gaiacio a chyfeiriannu. Neu, dilynwch lwybr 47 i Fynwent y Crynwyr ble y byddwch yn ymuno â gwychderTaith Taf