Dilynwch yn ôl traed arwyr y dref.
Mae cyfres o deithau cerdded byrion wedi cael eu datblygu trwyCaru Merthyr.
Dilynwch yn ôl traed arwyr y dref.
Mae cyfres o deithau cerdded byrion wedi cael eu datblygu trwyCaru Merthyr.
Dilynwch ein trywydd lled wahanol sy’n olrhain hanes lleol menywod Merthyr Tudful, a gafodd, tan yn ddiweddar eu hanwybyddu yn hanes cyfoethog y dref. Mae’n dechrau ac yn gorffen, ar ôl taith gerdded rwydd o tua hanner milltir trwy ganol y dref, â’r Santes Tudful, sef y nawddsant a sefydlodd ac a roddodd ei henw i Ferthyr Tudful. Awgryma’r gair ‘merthyr’ mai yma y cafodd ei merthyru cyn dyfod yn santes. Ar ôl cyrraedd pob man ar y trywydd gallwch ganfod rhagor am y lleoliad a’i berthnasedd i fenywod Merthyr Tudful dros y dudalen.
Mae Merthyr Tudful yn unigryw ac mae amrywiaeth eang o elfennau artistig yn cuddio mewn mannau di-nod. Ymunwch â Richard Jones, ffotograffydd a anwyd ym Merthyr Tudful ar daith fer o amgylch y dref er mwyn gweld yr hyn sy’n dal ei lygad ac yntau’n ffotograffydd proffesiynol. Tynnwch luniau ar hyd y daith gan ddefnyddio dim arall ond eich ffôn symudol. Fedrwch chi weld yr hyn y mae ffotograffydd yn ei weld?
Mwynhewch yr her o ddefnyddio camera eich ffôn er mwyn cofnodi rhai o ddelweddau eiconig ac elfennau gweledol anghyffredin Merthyr.
Dilyn Ôl Traed Dic Penderyn
Dilynwch yn ôl traed Dic Penderyn, ac ymweld â’r mannau ble fyddai arweinwyr Terfysg Merthyr 1831 wedi cwrdd i gynllwynio a lleoliad sawl anghydfod gwaedlyd yn ystod y terfysg. A oedd Dic Penderyn yn arwr, yn ddihiryn neu’n ddioddefwr o’r terfysg? Neu yn wir a oedd e’n ferthyr dros Gymry’r dosbarth gweithiol?
Darganfyddwch bopeth am Ferthyr Tudful a datblygiad y rheilffyrdd, gan ddechrau gyda rôl y dref yn y daith gyntaf erioed a wnaed ar reilffordd gan locomotif stêm. Dechreuodd y cyfan gyda bet rhwng dau feistr haearn pwerus ym Merthyr, gan arwain at locomotif stêm Richard Trevithick ac oes aur stêm yn y pen draw.
Dyma lwybr lleol sydd ychydig bach yn wahanol. Caiff y cerddwr ei annog i edrych i FYNY i weld beth sydd uwch ben lefel y llygad a hyd yn oed ar ben lefel y to tua’r nen!
Ni fyddwch yn cael eich siomi; yn wir, mae’n bur debyg y bydd yn eich diddori a’ch hysbysu am olygfeydd newydd o’r dref ac ongl wahanol o’i hanes cyfoethog. Wedi’r cyfan, roedd y dref yn gallu fforddio’r bensaernïaeth ddinesig orau o ran deunyddiau a dylunwyr.
Cyn dyfodiad diwydiant, a’i gwneud y dref gynhyrchu haearn mwyaf yng Nghymru yn 1840, Cymraeg oedd iaith mwyafrif Merthyr Tudful.
Roedd mwyafrif ei phoblogaeth wedi ei geni yng Nghymru ac felly yn siaradwyr Cymraeg; gellid clywed yr acenion Cymraeg amrywiol mewn gwahanol rannau o’r dref. Yn Heolgerrig roedd acen wahanol amlwg i honno yn Nowlais ac acen wahanol eto ym mhentrefi glofaol lawr y cwm ble roedd y gweithlu wedi dod o ganolbarth Cymru. Roedd poblogaeth ardal Georgetown, isranbarth dan nawdd Gwaith Haearn Cyfarthfa wedi cyfrif bod dros draean ei phoblogaeth yng nghyfrifiad 1851 wedi symud o Sir Gaerfyrddin.
Dilynwch ein taith fer o amgylch canol tref Merthyr Tudful i weld enghreifftiau o’r iaith Gymraeg yng nghelf, pensaernïaeth a’r gofod cyhoeddus.
Dyma lwybr ychydig yn wahanol i eraill , hyd yn oed gyda’i deitl! Mae am rôl yr afon Taf a’i heffaith ar hanes y dref hyd heddiw. Mae cymer y ddwy afon i’r de o Gefn Coed: ble mae’r Taf Fawr a’r Taf Fechan yn llifo o ddwy ochr ar lethrau deheuol Bannau Brycheiniog, gan darddu o tua 3,000 troedfedd cyn llifo i’r de ac i’r mȏr yng Nghaerdydd.
Mae gan ganol tref Merthyr adeiladau anhygoel, cofebion a gwaith celf, gyda llawer o nodweddion diddorol a gwahanol, o greaduriaid mytholegol ac anifeiliaid gwyllt i wynebau cyfarwydd â llawer o straeon o ddoe a heddiw.
Cliciwch yma am fapiau rhyngweithiol teithiau cerdded Caru Merthyr
Mae Teithiau Cerdded Canol y Dref yn rhan o gyfres o lwybrau sydd yn rhedeg trwy’r fwrdeistref sirol ac sydd yn crisialu hanes yr ardal ac sydd y cynnig milltiroedd ar filltiroedd o harddwch naturiol. Os ydych am stopio yn un o’r atyniadau antur gwych, dysgu am ein hanes, siopa, bwyta, cysgu neu fwynhau’r golygfeydd ysblennydd, mae rhywbeth ym Merthyr i bawb.
© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024