Gellir mynd ar gylchdaith drwy Bont-y-Gwaith a Mynwent y Crynwyr o Gefn Glas gan ddefnyddio Llwybrau Taf a Trevithick. Mae’r copa yn arwain at garn posib ar safle’r hen bwynt trig.
Uwchlaw’r A470, i’r gogledd o Fynwent y Crynwyr, mae Brathiad y Cawr yn fwlch mawr, dramatig ar y gorwel a gafodd ei chwarelu o ben crib hen bwll a chwarel Cefn Glas.
Gellir gweld golygfeydd godidog o Gymoedd Taf a Chynon o’r copa yn ogystal â llinell hen Gamlas Sir Forgannwg.