Mae Taith Taf yn mynd â chi ar daith 55 milltir o Fae Caerdydd i dref farchnad, hardd Aberhonddu a hynny drwy galon pentrefi hanesyddol Merthyr Tudful.
Mae rhan Merthyr Tudful o Daith Taf (Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol 46 ac 8) yn 14 milltir ac yn bennaf yn ddi-draffig sydd yn addas ar gyfer cerddwyr, rhedwyr, seiclwyr a marchogion ceffylau.
Mae’r llwybr yn defnyddio hen dramffyrdd, rheilffyrdd, camlesi a llwybrau camlesi a gallwch fwynhau pob dim sydd gan Ferthyr (a oedd ar un adeg yn brifddinas haearn y byd) i’w gynnig. Wrth deithio i’r gogledd, trwy dref Merthyr, byddwch yn croesi Traphont Gradd II Rhestredig Cefn Coed. Byddwch yn teithio trwy goetiroedd a gwarchodfeydd natur ac yn croesi Traphont hanesyddol Pontsarn wrth i chi ddringo’n araf at Gronfa Ddŵr Pontsticill ac ymlaen i Aberhonddu trwy’r Parc Cenedlathol. Mae dilyn Llwybr 8 o Ferthyr Tudful i Aberhonddu yn 25 milltir (40k) ac yn cymryd 2 awr ar arwyneb sydd yn gymysgedd o Asffalt (60%) ac yn rhydd (40%) ac mae 60% ohono yn ddi-draffig.
Mae calon Taith Taf ynghanol Merthyr Tudful, lle y mae digon o gyfle i chi stopio am ginio neu ymweld â’r pentrefi hanesyddol a’r safleoedd cyfagos.
Mae Taith Taf yn rhan o Lwybr NCN 8, neu’r hyn sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Lôn Las Cymru. Mae’n llwybr pellter hir, cyffrous a fydd yn eich herio ac yn eich rhyfeddu wrth iddo basio trwy dirweddau prydferth Cymru. Mae’r llwybr yn dechrau yng Nghaerdydd ac yn pasio drwy ddau Barc Cenedlaethol - Bannau Brycheiniog ac Eryri, cyn dod i ben yn Ynys Môn. Mae’n 243 milltir o hyd ac yn cymryd oddeutu 20 awr i’w gwblhau. Dilynwch y ddolen i wefan Sustrans er mwyn dod o hyd i fapiau a’r llwybr cyfan.
Mae ein fideos diweddaraf yn helpu i ddal hanfod mawreddog Taith Taf.