Llwybr Trevithick – cerddwch drwy hanes gyda phrydferthwch natur o’ch cwmpas.
Mae Llwybr Trevithick, sy’n dechrau yng nghalon Merthyr Tudful, yn dathlu taith arloesol cyntaf ‘Oes Stêm’ ym 1804 ac mae’n parhau i gynnwys twnnel gwreiddiol Trevithick, sydd yn atyniad ynddo’i hun. Gellir dod o hyd i gelfwaith lleol ac ardaloedd o brydferthwch naturiol ar hyd y daith hanesyddol hon gyda rhai pethau anhygoel i’w darganfod o gwmpas pob cornel.
Mae’r llwybr yn dathlu’r daith gyntaf a wnaed gan locomotif stêm yn tynnu llwyth ar reiliau haearn ym 1804. Dyma ragflaenydd ‘Yr Oes Reilffordd’ a newidiodd y byd yn y 19 ganrif. Ar 21 Chwefror, 1804, tynnodd locomotif y Penydarren, a gafodd ei gynllunio a’i adeiladu gan y dyfeisiwr o Gernyw Richard Trevithick ar gyfer Samuel Homfray, meistr Gwaith Haearn Penydarren, lwyth o 10 tunnell o haearn a 70 o ddynion, naw milltir i lawr Cwm Taf – a’r cyfan yn sgil bet.
Dechreuodd y daith hanesyddol yng Ngwaith Haearn Penydarren tua’r Navigation gan ymuno â Chamlas Morgannwg. Felly crëwyd cyswllt rhwng calon ddiwydiannol Merthyr Tudful â phorthladd Caerdydd a gweddill y byd. Ar hyd y llwybr ceir nodwyr a meini sy’n dynodi arwyddocâd hanesyddol amrywiol leoliadau wrth i chi ddilyn y llwybr ar hyd naw milltir y daith. Er mwyn peidio mynd am yn ôl ym Mhont-y-gwaith, gallwch ymuno â Llwybr 8 y Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol a dychwelyd i Ferthyr Tudful ar hyd Taith Taf.
FFAITH: Cafodd Twnnel Trevithick ei greu ar gyfer y daith gyntaf yn y byd gan locomotif stêm. Gellir dadlau mai dyma’r twnnel locomotif hynaf yn y byd ar gyfer injan stêm ar reiliau sy’n gyrru ei hun ymlaen.
Tua 9 milltir o hyd, mae’n cymryd tua 45 munud i’w gwblhau. Dilynwch y ddolen isod i gael Map Rhwydwaith Seiclo Sustrans.