Mae’r llwybr yn dechrau ac yn gorffen yng Nghanolfan Summit Rock UK rhwng pentrefi Trelewis a Bedlinog. Mae tri llwybr cylchol o wahanol bellteroedd I ddewis ohonynt, a phob un yn mynd i Gomin Gelli-gaer a Merthyr, gan gynnig golygfeydd godidog dros ardal Bargod Taf. Mae’r llwybr wedi’I enwi ar ol y Barcud Coch, sy’n cael ei weld yn aml yn hedfan yn yr ardal leol.
Mae arwyddbyst ar hyd y llwybrau I gyd gyda disgiau lliw yn marcio’r ffordd. I ddechrau arni, dilynwch yr olion traed gwyn o faes parcio Canolfan Summit. Mae gan y ganolfan ddigon o le I barcio ceir, ac mae’n cynnig amrywiaeth o weithgareddau antur, toiledau ac, yn bwysicaf oll, caffi gwych. Mae baned a theisen yn hanfodol ar ol unrhyw daith gerdded wych!