Rhwydwaith seiclo penodedig yw’r Llwybr Celtaidd sy’n rhychwantu dwyrain, de a gorllewin Cymru. Mae’r daith, sy’n bennaf yn ddi-draffig, yn cwmpasu rhai o olygfeydd mwyaf amrywiol y wlad o borth dwyreiniol Cymru hyd at Barc Cenedlaethol Sir Benfro a’r llwybrau seiclo gorau yn y DU.
Mae’r Llwybr Celtaidd yn ddelfrydol i bawb sy’n frwd dros seiclo a’r teithiwr ar gefn beic â’i bac ar ei gefn. The Guardian
Mae dwy daith gan y Llwybr Celtaidd – Llwybr Cenedlaethol 4 sy’n mynd ar hyd yr arfordir a Llwybr Cenedlaethol 47 sef llwybr mewndirol. Mae’n cymryd tua 30 awr i’w gwblhau felly argymhellir eich bod yn seiclo camau bach ar y tro. Gallwch weld yr adrannau di-draffig a argymhellir yma Sustrans (Rhwydwaith Seiclo Cenedlaethol).