Croeso i Wales Outdoors and Wales Guided Tours, cartref Taith Gerdded Sgydau Bannau Brycheiniog, Teithiau Cerdded Tywys yng Nghymru a theithiau ymweld â Chestyll, Amgueddfeydd, Profiadau ac wrth gwrs ymweliadau ag Amgylchedd Naturiol arbennig Cymru.
Mae’n teithiau tywys proffesiynol yn cynnwys Chwe Sgwd Bannau Brycheiniog, Diwrnod Twrio am Fwyd a Sgydau’r Goedwig yn ogystal ag amrywiaeth o deithiau cerdded eraill yn Ne, Canolbarth a Gogledd Cymru. Rhwng misoedd Mawrth a Thachwedd, rydym yn cynnig 8 taith gerdded wythnosol a gallwn eich casglu yn ardal Merthyr Tudful ar gyfer Teithiau o amgylch y Chwe Sgwd, Pen y Fan i weld yr haul yn codi a diwrnod cyfan ym Mhen y Fan a hynny ar lwybrau na ŵyr pawb amdanynt.
Mae’n teithiau tywys sydd yn defnyddio gyrrwr proffesiynol wedi’u teilwra ar gyfer ymweld â’r lleoliadau gorau, ledled De Cymru. Beth am Abaty Tyndyrn, Llancaiach Fawr, Castell Cyfarthfa neu Ddinbych y Pysgod, heb anghofio Penrhyn Gŵyr a Rhosili. Meant ar gael yn wythnosol. Ystyriwch y teithiau cerdded hyn fel anturiaethau bychan i’w mwynhau yn ystod eich arhosiad ym Merthyr Tudful.
Dim car? Dim problem! Mae Teithiau Tywys o Ferthyr yn wasanaeth y gallwn ei gynnig. Gallwn eich casglu o ganol Merthyr neu gallwch drefnu lleoliad addas arall ar y ffordd!
Mae Tîm Wales Outdoors yn un ymgysylltiol a hoffus sydd yn gyfuniad gwych ar gyfer diwrnod da allan yng nghefn gwlad Cymru.
Hefyd, gallwn greu taith neu daith gerdded unigryw ar gyfer eich grŵp neu’ch teulu. E-bostiwch ni am ragor o fanylion.
Cawsom ein sefydlu ym 1995 ac yn 2024, ni oedd Gweithredwr Teithiau Cerdded y Flwyddyn. Edrychwch ar yr adborth yr ydym wedi ei dderbyn. Mae’n galonogol ein bod wedi gwneud cymaint o ymwelwyr yn hapus a’u bod yn gadael Cymru ag atgofion i’w trysoru.
Edrychwch ar ein teithiau cerdded/tywys ac archebwch eich lle ar-lein.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch info@walesoutdoors.co.uk neu ewch i flog Wales Outdoors yma.
Edrychwn ymlaen at fwynhau diwrnod gwych allan gyda chi yng Nghymru!
Archebwch eich Wâc neu eich Taith yng Nghymru Ryfeddol