Yn ystod y 19ganrif, heidiodd pobl at gyfoeth Merthyr Tudful. Roedd twf yr ardal yn aruthrol, o oddeutu 40 yn 1760 i dros 50,000 yn 186 a gan mai Merthyr oedd meithrinfa’r Chwyldro Diwydiannol, mudodd pobl o bob rhan o’r byd. Roedd y gymuned yn gymysgedd o genhedloedd gan gynnwys Saeson, Albanwyr, Gwyddelod, Ewropeaid Dwyreiniol, Eidalwyr a Sbaenwyr. O ganlyniad, mae gan nifer o bobl deulu ym Merthyr.
Wrth edrych i’ch hanes, argymhellir eich bod yn casglu cymaint o wybodaeth â phosib gan berthnasau hŷn gan geisio dynodi dyddiadau/cyfeiriadau a allai fod o gymorth wrth fynd drwy gofnodion. Argymhellir hefyd eich bod yn cysylltu â Chymdeithas Hanes Teuluol Sir Forgannwg gan y gallent fod yn gymorth mawr.
Y sefydliad angenrheidiol i’ch cynorthwyo i ffurfio’ch coeden deuluol yw Gwasanaeth Llyfrgell Merthyr. Mae gan Gasgliad Hanes Lleol y Llyfrgell Ganolog lawer iawn i gynnig gan gynnwys mapiau, hen bapurau newydd, cofnodion ysgol, deunyddiau gan gapeli / eglwysi, ffotograffau a rhagor. Mae’r ystafell gyfrifiadurol yn cynnig mynediad am ddim i adnoddau ar lein helaeth debyg i ancestry.co.uk a findmypast.co.uk.
Cyfeiriad: Y Llyfrgell Ganolog, Y Stryd Fawr, Merthyr Tudful, CF47 8AF
Ffôn: 01685 723057
E-bost: library.services@merthyr.gov.uk
Byddwch yn barod – nid yw’n anghyffredin i haneswyr teuluol ddod o hyd i hen sgandal o’r gorffennol!