Parc Rhanbarthol y Cymoedd ydyn ni — rydyn ni’n frwd dros lesiant, diwylliant, yr amgylchedd a’r gymuned yng Nghymoedd y De.
Beth yw PRhC
Gweledigaeth amgylcheddol ar gyfer y Cymoedd yw Parc Rhanbarthol y Cymoedd, a ddatblygwyd ac a gyflwynir trwy bartneriaeth gynyddol o awdurdodau lleol, asiantaethau’r llywodraeth, byrddau iechyd lleol, ymddiriedolaethau elusennol, a sefydliadau gwirfoddol, gan weithio’n agos gyda mentrau preifat a chymunedau lleol.
Ble mae PRhC?
Yn ddaearyddol, mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn dilyn ôl traed cyn-feysydd glo De Cymru, mae’n ymestyn o Sir Gaerfyrddin yn y gorllewin i Bont-y-pŵl yn y dwyrain ac yn ymylu ar Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog tua’r gogledd. Mae’r ardal yn gartref i bron i draean o boblogaeth Cymru.
Canolfannau DarganfodYn y lle cyntaf, mae’r gwaith wedi ei ganolbwyntio o amgylch deuddeg lleoliad ar hyd y cymoedd i amlygu ac amlhau i’r eithaf potensial anhygoel tirlun y cymoedd gyda’u treftadaeth naturiol a’u diwylliannol unigryw. Mae Parc Cyfartha’n un o’r lleoliadau sy’n rhan o rwydwaith y Canolfannau Darganfod. Isod mae yno fap yn dangos y deuddeg lleoliad a dolen gyswllt i wefan Parc Rhanbarthol y Cymoedd.