Dywedwyd fod Merthyr Tudful yn yr hen ddyddiau a fu yn debyg i hen dref, wyllt, ffiniol. Eto, hyd yn oed yn ystod ei chyfnodau mwyaf cythryblus, roedd traddodiad crefyddol gref yn perthyn i’r dref - o’r Cristnogion cynnar yn cynnwys Santes Tudful a roddodd ei hen i’r dref i rôl Fferm Blaencanaid yn sefydliad anghydffurfiol yr 17eg ganrif, i’r niferoedd mawr a arferai fynychu gwasanaethau credoau amrywiol y Chwyldro Diwydiannol.
Yn ychwanegol i hanes yr etifeddiaeth grefyddol hon mae’r addoldai sydd ar ôl nid yn unig yn werthfawr i’r crefyddol ond mae’r adeiladau yn dadorchuddio naratif pensaernïol o’r amseroedd ac mae’r safleoedd claddu yn dweud cymaint am orffennol trigolion y dref.
Dyma flas yn unig o’r hanes sy’n perthyn i’r adeiladau hyn.
Difrodwyd hen eglwys y Faenor ym mrwydr Maes Faenor yn 1291 a blynyddoedd yn ddiweddarach, defnyddiwyd tŵr yr adeilad newydd fel carchar.
Cafodd Eglwys Sant Ioan yn Nowlais ei hadfer gan y Meistr Haearn, John Josiah Guest. Wedi iddo farw, claddwyd ef o dan yr adeilad.
Adeiladwyd Eglwys Santes Tudful ar orffwysfa Santes Tudful (yn y Gymraeg, ystyr Merthyr Tudful yw man claddu’r Merthyr.)
Synagog - Adeiladwyd rhwng 1872 ac 1875 mewn dull gothig Gogleddol cryf. Credir mai synagog Merthyr Tudful yw’r adeilad synagog hynaf yng Nghymru sydd yn dal i fodoli.