Joio siopa? Os os arnoch angen cwpwl o oriau o therapi siopa, mae gan ganol y dre ym Merthyr ddigonedd i’w gynnig gyda’i ganolfan siopa, ei rhodfa dan do a’i stryd fawr draddodiadol.

 

Crwydrwch o amgylch ein tref sydd wedi ei threfnu, ar y cyfan, er budd cerddwyr. Prynwch anrheg neu bachwch fargen neu ddwy’n hamddenol braf.

 

Gallwch ddod o hyd i lawer o hoff enwau’r stryd fawr yng Nghanolfan Siopa Santes Tudful a chanolfan Beacons Place yng nghanol y dre.

 

Galwch mewn i Bumbletree neu Options er mwyn dod o hyd i rodd anarferol i ffrindiau neu’r teulu.  

 

Dewch i weld y rhesi o botiau’n llawn losin traddodiadol yn Sweet Essence neu beth am flasu’r ystod o losin Americanaidd a byta bant!

 

Dewch i gael pip ar ein Marchnad Dan Do hynod, mae’n llawn busnesau bach sy’n cynnig ystod unigryw o eitemau.

 

Galwch draw i un o’n gemyddion annibynnol neu emyddion brand mawr – y naill a’r llall yn cynnig ystod o eitemau i weddu poced pawb.

 

Galwch draw i siop farchnad Weekend Offender er mwyn prynu crys-t, crys polo neu bâr o jîns o’r dre lle cychwynnwyd y brand enwog.

 

Darganfyddwch ein Marchnad Stryd draddodiadol bob dydd Mawrth a dydd Sadwrn bachwch fargen neu ewch adre gyda rhywbeth neis, neis i de.

 

Gwisgwch at y tywydd yn barod am eich antur ym Mannau Brycheiniog – mae siop Tresspass yn wych ar gyfer dillad, sgidiau ac offer awyr agored.

 

Porwch drwy A Better World a Retroplex er mwyn gweld eu detholiad anferthol o gomics a gemau.

 

Anelwch at Tezzabelles Boutique ac Emporium ym Mhontmorlais i chwilio’r ffasiwn ddiweddara ac er mwyn dod o hyd i rywbeth ychydig bach yn wahanol.

 

Galwch heibio’n siop ffrwythau a llysiau traddodiadol Fresh ‘n’ Fruity a’r cigydd JW Millward ar gyfer y cynnyrch lleol gorau.

 

Mwynhewch eich rhai bach wrth iddynt ymbleseru mewn gwisgoedd wedi gwau o’r siop Trendy Tots Baby Boutique.

 

Pryfociwch eich blaswyntiau gyda danteithion blasus o ddeli Crosswood a phethau braf, melys o Sugar & Swirls. Rhowch gwtsh mawr i’ch enaid a dathlwch eich prydferthwch cynhenid drwy ymweld ag unrhyw un o salonau iechyd, gwallt a harddwch y dre.

 

Bachwch gyfle i brynu danteithion arbennig Pwylaidd yn Ziomek, mae’n llawn cig, bwydydd Pwylaidd, ffrwythau a llysiau.

 

Os ydych yn aros gyda theulu neu ffrindiau beth am ddweud diolch iddynt gyda thusw prydferth o flodau o Siop Flodau Ann.

 

Ac yna… ymlaciwch! A pharatowch ar gyfer rhan 2 o’ch strafagansa siopa drwy gael paned neu bryd bach yn un o’r caffis neu fwytai hyfryd sy’n frith drwy’r dref.

 

Darganfyddwch ragor drwy ymweld â welovemerthyr.co.uk

 

Yn ogystal â siopau’r stryd fawr mae yno farchnad ddyddiol dan do, marchnad yn yr awyr agored dwywaith yr wythnos yn ogystal â marchnad ffermwyr ddydd Gwener cyntaf bob mis, mae’n farchnad sy’n cyflenwi canol y dre gyda bwydydd a chrefftau  wedi eu cynhyrchu’n lleol.

 

Tref ac iddi hanes helaeth, diddorol a chyfoethog yw Merthyr Tudful.