Mae Canolfan Siopa St Tudful, sy’n lleoliad di-draffig lled-gysgodol, yn cynnig rhyw 50 o siopau, yn cynnwys llawer o siopau cenedlaethol a nifer o fusnesau annibynnol nodedig. Uwchlaw, mae’r farchnad dan do yn cynnig amrywiaeth wych o gynnyrch ac anrhegion. Efallai mai’r stondinwr enwocaf yw Chris Jones, sy’n honni iddo ddysgu Jamie Oliver sut i wneud pice bach (Welsh cakes). Mae’n gwneud ac yn gwerthu mwy na 1,000 o bice bach bob dydd. Fe wnaeth y cogydd enwog gynnwys y rysáit yn ei lyfr, Jamie’s Great Britain.

 

Gydol y flwyddyn, mae Canolfan Siopa St Tudful yn trefnu marchnad undydd reolaidd ar y cyd â menter siopau a busnesau We Love Merthyr – cadwch lygad ar y cyfryngau cymdeithasol i weld y manylion diweddaraf.