Sicrhewch eich bod yn dod i Barc Siopa Cyfarthfa i wneud y gorau o’ch siopa. Dewch o hyd i amrywiaeth o siopau o ffasiwn i eitemau ar gyfer y tŷ, offer trydanol a llawer rhagor. Os ydych yn edrych am y ffasiwn ddiweddaraf neu yn edrych am gynnyrch unigryw, mae rhywbeth at ddant pawb yma. 

 

Paradwys i siopwyr yng nghalon yr ardal  

 

Beth sydd yng Nghyfarthfa

Mae’n siopau’n cynnig pob dim sydd eu hangen arnoch i greu amgylchedd perffaith yn eich cartref.

Mae Parc Siopa Cyfarthfa yn cynnig profiad manwerthu amrywiol a dewch o hyd i ffasiwn, cynnyrch trydanol, iechyd a harddwch, cartref a gardd a chwaraeon a hamdden yno ac mae dewis helaeth o dai bwyta/caffis.

 

Cyfleusterau

Mae’r toiledau’r drws nesaf i’r swyddfa reoli lle y ceir toiledau i’r anabl a chyfleusterau newid i fabanod. Mae toiledau i gwsmeriaid yn M&S, Pizza Hut, Costa, McDonalds a KFC.

Mae loceri Amazon ar gael gerllaw’r swyddfa reoli.

Mae’r swyddfa reoli gerllaw Costa a New Look.

Mae oddeutu 1,460 o leoedd parcio ar gael gan gynnwys lleoedd ar gyfer yr anabl a phlant. Rydym wedi’n hardystio gan Park Mark.

 

Cyfarwyddiadau

Mae Parc Siopa Cyfarthfa yn agos i Fannau Brycheiniog a gerllaw’r A470, pellter byr o ganol y dref.

 

Car

Cod post SAT NAV: CF48 1HY. Parcio am ddim, drwy’r flwyddyn.

Mae oddeutu 1,460 o leoedd parcio ar gael gan gynnwys lleoedd ar gyfer yr anabl a phlant.

 

Tacsi

Mae mannau Tacsi ar gael arc Stryd Fictoria, Merthyr Tudful ac yn orsaf Drenau Merthyr Tudful.  

 

Bws

Mae Parc Manwerthu Cyfarthfa yn agos iawn i Ferthyr Tudful. Mae bysiau gwasanaeth 6, 9, 23, X4, T14, T4 yn gwasanaethu’r parc. Cliciwch yma am ddiweddariadau byw.

 

Trên

Mae Gorsaf Drenau Merthyr Tudful ar ochr y Dramffordd. Dyma ddiwedd llinell Merthyr. Mae un platfform yn yr orsaf sydd gerllaw siop Tesco yn y dref. Mae maes parcio bychan yn yr orsaf, swyddfa docynnau, panelu arddangos i deithwyr a mannau tacsi. Darperir y gwasanaethau gan Drenau Arriva Cymru. Bydd angen i deithwyr sydd am deithio ar fysiau i gyrchfannau eraill gerdded i’r brif orsaf fysiau. Mae bysiau 9 a 27 yn mynd i Barc Manwerthu Cyfarthfa.

 

yn darparu siopau amrywiol sy'n cynnig ffasiwn, iechyd a harddwch, electroneg, nwyddau i’r cartref a’r ardd, a chynhyrchion chwaraeon a hamdden, ynghyd â dewis o fwytai/caffis. Mae dros 1,450 o leoedd parcio ar y safle, gan gynnwys parcio i'r anabl a pharcio sy’n gyfeillgar i blant. Rydym wedi ein hardystio gan y cynllun “Park Mark”.