Neidio i'r prif gynnwy

Profiad Manwerthu Trago

Mae’n fwy na siopa – mae’n ddiwrnod allan i’r teulu.

Byddwch yn dod o hyd i filoedd o fargeinion a’r cyfan oll dan un to! Mae Trago Merthyr Tudful wedi ei leoli oddi ar yr A470 (Heol Abertawe) ac mae yno 180,000 o gynnyrch ar hyd 38 adran.

 

Mae Trago’n adwerthwr annibynnol, sy’n gwerthu gostyngiadau ac sy’n cael ei gynnal gan y teulu. Agorwyd y siop gyntaf ganddynt yng Nghernyw yng nghanol y 1960au ac erbyn hyn mae ganddynt dair siop yn Ne Orllewin Lloegr ac un yng Nghymru.

 

Uchafbwyntiau:

Mae’r Piazza, sydd wedi ei leoli y tu allan i’r brif fynedfa, yn gartref i nifer o adwerthwyr a gwerthwyr bwyd annibynnol. Cymerwch ba un fynnoch boed bastai o Gernyw neu bice ar y maen o Gymru, cacennau cartref, brechdanau a llawer yn rhagor.

 

Mae ein canolfan chwarae meddal ar gael ar yr un safle a’r siop play-zone@Trago

Oriau Agor y Siop:

 

Mae oddeutu 1,200 o lefydd parcio yn cynnwys mannau parcio sydd wedi eu cadw ar gyfer gyrwyr anabl.

 

Mae bws rhif 23 yn gadael gorsaf fws ganolog Merthyr ac yn gollwng siopwyr ar ein safle yn agos at y brif fynedfa.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025