Neidio i'r prif gynnwy

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Mae’n fwy na Chastell, Parc, Amgueddfa ac Oriel Gelf ...

Merthyr Tudful – cyn brif ddinas Haearn y byd!

Comisiynwyd ac adeiladwyd Castell Cyfarthfa yn 1824-25 ar gyfer y Meistr Haearn,’ William Crawshay II, sef un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol ar y pryd yng Nghymru. Mae’n awr yn gartref i Amgueddfa ac Oriel Gelf boblogaidd sydd ar agor i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn.  Gall ymwelwyr fwynhau rhaglen flynyddol o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai ac arddangosfeydd neu archwilio’r Amgueddfa sy’n brawf o ysbryd y dyn gweithiol, ysbryd Merthyr a’r stori sy’n sicrhau lle pwysig i Ferthyr yn hanes Cymru a Phrydain gyfan. Mae lluniaeth ar gael yn Ystafelloedd Te Cyfarthfa sydd yn y Castell.  

Arferai’r plasty castellog, mawreddog hwn edrych dros ei weithfeydd haearn llwyddiannus ac mae’n cael ei adnabod fel “cofadail mwyaf trawiadol yr Oes Haearn Diwydiannol yn Ne Cymru.” Yn 1910, cafodd ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a heddiw, mae’n gartref i arteffactau sy’n cysylltu Merthyr Tudful â’r gorffennol - yn amrywio o gasgliad o waith celf unigryw i chwiban stêm cyntaf y byd.   

Ar ben hynny, mae'r cyfleuster yn gartref i Ystafell De boblogaidd ar gyfer ymlacio.

Ar hyn o bryd rydym ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sul rhwng 10:00 a 16:30 (mynediad olaf am 16:00). 

Byddwn ar gau bob dydd Llun tan fis Ebrill 2026.

 

Lluniaet

Mae Amgueddfa Castell Cyfarthfa yn cynnwys teithiau sain, tywys mewn nifer o wahanol ieithoedd a gall ddarparu ar gyfer grwpiau tywys/grwpiau unigol os ofynnir am hynny o flaen llaw. Mae yma hefyd Ystafell De boblogaidd ac mae amrywiaeth o fwydydd cartref a diodydd.

https://www.visitmerthyr.co.uk/news/new-illustrated-map-of-cyfarthfa-park-and-castle/

C220 Bicentenary Celebration Illustrated Map - 📸 Cyfarthfa Foundation. Click the image to find out more.