Mae yma ddwy ganolfan siopa sydd wedi’u gorchuddio’n rhannol ar gyfer cerddwyr yn unig. Yng Nghanolfan Santes Tudful, dewch o hyd i nifer o fanwerthwyr cenedlaethol ac annibynnol yn ogystal â marchnad dan do, draddodiadol ar y llawr cyntaf. Mae Arcêd y Bannau’n cysylltu’r orsaf drên a’r archfarchnad â’r stryd fawr lle y dewch o hyd i ragor o fanwerthwyr.

 

Mae modd cyrraedd canol tref Merthyr Tudful yn hawdd ar droed, beic, trafnidiaeth gyhoeddus a char. Mae yma nifer o feysydd parcio mawr, gorsaf fysiau fawr sydd â chysylltiadau ledled yr ardal a gwasanaeth trên bob hanner awr i Orsaf Caerdydd Canolog. Croesawir seiclwyr ynghanol y dref ac mae’r llwybr yn arwain yn uniongyrchol at Daith Taf. Ceir nifer o stondinau beic a darparwyr llety a bwyd sydd hefyd yn eu croesawu.Ynghanol y dref, dewch o hyd i amrywiaeth o fanwerthwyr annibynnol ym Mhontmorlais, ardal hanesyddol canol y dref lle y lleolir Canolfannau Celfyddydol Redhouse Cymru a Theatr Soar. Ceir siopau groser a manwerthwyr annibynnol hefyd ar Stryd y Glasdir a Stryd Fictoria. 

 

Mae’r Ardal Gaffis ar ochr ddeheuol y Stryd Fawr yn darparu amrywiaeth o gaffis, bariau a thai bwyta lle y gallwch eistedd y tu allan.