Neidio i'r prif gynnwy

Canolfan Awyr Agored Parkwood Dolygaer

Mae Parkwood Outdoors Dolygaer yn ganolfan weithgareddau awyr agored wedi ei lleoli yn Ne Bannau Brycheiniog, 15 munud mewn car o Ferthyr Tudful

Canolfan aml weithgaredd ger Cronfa Pontsticill ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.


Ar ei Newydd Wedd. Gwersyllfa Newydd. Anturiaethau Newydd


Mae Parkwood Outdoors Dolygaer yn ganolfan weithgareddau awyr agored wedi ei lleoli yn Ne Bannau Brycheiniog, 15 munud mewn car o Ferthyr Tudful. Mae’r ganolfan yn cynnig ystod wych o weithgareddau gan hyfforddwyr arbenigol. Mae’r gweithgareddau ar gael yn cynnwys padl-fyrddio, crwydro ceunentydd, caiacio, adeiladu rafftiau, dringo, ogofau, cerdded mynyddoedd, cyfeiriannu a mwy gydag opsiynau ar gyfer pob oed a gallu.


Beth am fynd ar y Wifren Wib Zip Wire -100m o hyd ac yn dechrau 20m fyny coeden. Mae dringo’r goeden yn llwyddiant ynddo’i hun, ond rhaid camu i’r awyr! Ar ôl hyn, byddech yn teimlo’r gwynt wrth hedfan uwchben cwm Nant Callan i’r ochr arall. Byddwch yn dod 'nôl i’r ddaear ar ochr arall y cwm.


Rhaid profi'r golygfeydd godidog, y gronfa, yr afon a’r bryniau. Bydd y staff cymwys yn gwneud eich arhosiad yn ddiogel, yn bleserus a chofiadwy.

Uchafbwyntiau: Yn NEWYDD ar gyfer 2022 -

  • Glampio - 5 pabell Luna newydd sbon a helaeth
  • Rhedfa Gwiwer - Ydych chi wedi gweld pa mor heini ac ystwyth ydi wiwer? Dyma eich cyfle i weld sut gallwch chi addasu i’r amgylchedd wrth ddringo, sgrialu a chodi eich hun mewn heriau gyda chefnogaeth tîm. Gallwch gyfuno’r gweithgaredd hwn gyda gweithgaredd arall fel y Wifren Wib am weithgaredd hanner diwrnod
  • Caffe ar y safle am fwyd a diod oer/poeth
  • Wagen Pizza gyda pizzas wedi eu coginio ar garreg (ar gael ar ddyddiau penodol trwy’r haf)
  • Ardal fwyta tu allan gyda golygfeydd o gronfa Pontsticill
  • Gwersyllfa Golygfa’r Gronfa - 35 llain gyda chawodydd newydd, toiledau ac ardal olchi
  • Amrywiaeth o weithgareddau o Badl-fyrddio i Ddringo, gyda phopeth wedi ei ddarparu. Yn berffaith ar gyfer teuluoedd a grwpiau
  • Staff cymwys hynod brofiadol
  • Gyda golygfeydd godidog o Ben y Fan o’r safle
  • Amgylchedd diogel, cyfeillgar a hwylus i brofi gweithgareddau newydd
    Ar agor trwy’r flwyddyn- mae’r tywydd yn newid ond dyw’r gweithgareddau byth yn stopio!

Ar gyfer pwy?
Pob oed a phob gallu.
Oedolion, plant, ysgolion, sgowtiaid, geidiaid,partion plu a hydd, grwpiau milwrol a chorfforaethol. O weithgaredd pen-blwydd i blentyn wyth oed i her adeiladu tîm, gall Dolygaer ei drefnu i chi.

Ble?
10 munud oddi ar yr A470, gerllaw Cronfa Pontsticill, i’r gogledd o Ferthyr Tudful

Llety
Dewis o lety 3 & 4-seren ar gyfer pob math o berson yn cynnwys y wersyllfa gyda phebyll glampio Luna newydd sbon, Porthdy Dolygaer a Bwthyn Dolygaer, sy’n cynnig cyfle i ymlacio moethus ar ddiwedd diwrnod yn llawn gweithgaredd.