Mae Canolfan a Theatr Soar yn ganolfan ddiwylliannol yng nghalon tref Merthyr Tudful. Dyma’r lle i fynd os ydych am ddefnyddio’ch Cymraeg neu brofi a chlywed yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad ym Merthyr Tudful. 

 

Mae croeso cynnes yn eich disgwyl os ydych am ymweld â chaffi Canolfan Soar am goffi neu ginio, prynu llyfr neu CD yn y siop lyfrau, cyfranogi mewn gweithdy neu fwynhau perfformiad yn awditoriwm 200 sedd Theatr Soar. 

 

Gellir prynu tocynnau ar gyfer ein perfformiadau ar ein gwefan:  https://uk.patronbase.com/_Soar/Productions