Clwb Rygbi Merthyr yw un o glybiau chwaraeon hynaf Merthyr Tudful
Cafodd gêm gyntaf Clwb Merthyr ei chwarae ym 1876 ar Faes Plymouth ym Mhentrebach sef Merthyr Alexandra.
Mae Clwb Rygbi a Phêl-droed Merthyr yn aelod o Undeb Rygbi Cymru ac yn chwarae yng Nghyngrair y Principality gan fwydo i Glwb Gleision Caeredydd.
Mae eu cartref ar hyn o bryd yn y Wern yn Ynysfach lle, yn ddiweddar cwblhawyd gwaith adnewyddu gwerth £1.13 miliwn o bunnodd yn cynnwys eisteddfa ar gyfer 700 o gefnogwyr, cae pob tywydd, llif oleuadau, ystafelloedd newid, cyfleusterau hyfforddi â phwysau a chanolfan ieuenctid.