Neidio i'r prif gynnwy

Parc & Castell Cyfarthfa

Mae’n fwy na Chastell, Parc, Amgueddfa ac Oriel Gelf. . . .mae’n dystiolaeth o ysbryd Merthyr!

Discover Cyfarthfa Park & Castle

Mae Parc Cyfarthfa, Rhestredig Graddfa II, ymhlith yr atyniadau twristaidd am ddim yng Nghymru sy’n denu’r mwyaf o ymwelwyr.

Mae’r parc ar lecyn 65 erw ac mewn man amlwg uwchlaw tref Merthyr Tudful a safle hanesyddol Gweithfeydd Haearn Cyfarthfa. Mae’r parc hefyd yn darparu cefnlen hardd i Gastell Cyfarthfa sydd wedi ei gofrestru fel safle rhestredig Gradd I ac a oedd ar un adeg yn gartref i deulu enwog teulu’r Crawshay. Mae’n cael ei adnabod fel yr enghraifft orau o gartref sydd wedi goroesi ac a oedd yn perthyn i un o Feistri Haearn y 19eg ganrif yn Ne Cymru. 

 

Trwy gydol y flwyddyn, mae Parc Cyfarthfa’n cael ei ddefnyddio fel lleoliad ar gyfer digwyddiadau; o gyngherddau mawreddog ac arddangosfeydd tân gwyllt i arddangosfeydd crefftau, rasys hwyl a digwyddiadau er mwyn codi arian. 

 

Addas ar gyfer grwpiau, cyfarfodydd, cynadleddau a dathliadau. Gellir archebu drwy gysylltu â’r Amgueddfa. 

 

Rhif Ffôn: 01685 727371 neu E-bost: museum@merthyrleisuretrust.co.uk

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Comisiynwyd ac adeiladwyd Castell Cyfarthfa yn 1824-25 ar gyfer y Meistr Haearn,’ William Crawshay II, sef un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol ar y pryd yng Nghymru. Mae’n awr yn gartref i Amgueddfa ac Oriel Gelf boblogaidd sydd ar agor i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn.  Gall ymwelwyr fwynhau rhaglen flynyddol o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai ac arddangosfeydd neu archwilio’r Amgueddfa sy’n brawf o ysbryd y dyn gweithiol, ysbryd Merthyr a’r stori sy’n sicrhau lle pwysig i Ferthyr yn hanes Cymru a Phrydain gyfan. Mae lluniaeth ar gael yn Ystafelloedd Te Cyfarthfa sydd yn y Castell.  

 

Arferai’r plasty castellog, mawreddog hwn edrych dros ei weithfeydd haearn llwyddiannus ac mae’n cael ei adnabod fel “cofadail mwyaf trawiadol yr Oes Haearn Diwydiannol yn Ne Cymru.” Yn 1910, cafodd ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a heddiw, mae’n gartref i arteffactau sy’n cysylltu Merthyr Tudful â’r gorffennol - yn amrywio o gasgliad o waith celf unigryw i chwiban stêm cyntaf y byd.  

 

Mae Amgueddfa Castell Cyfarthfa yn cynnwys teithiau sain, tywys mewn nifer o wahanol ieithoedd a gall ddarparu ar gyfer grwpiau tywys/grwpiau unigol os ofynnir am hynny o flaen llaw. Mae yma hefyd Ystafell De boblogaidd ac mae amrywiaeth o fwydydd cartref a diodydd ar gael trwy gydol y flwyddyn.

 

Mae lluniaeth ar gael yn Ystafelloedd Te Cyfarthfa sydd i'w gweld yn y Castell, Canolfan Cyfarthfa ac mae'r Bothy ar y tir.

 

Archebwch eich ymweliad â’r amgueddfa a’r oriel gelf yma!

 

Ar hyn o bryd, rydym ar agor dydd Mawrth - dydd Sul 1000 a 1630 (mynediad olaf am 1600). Ar gau dydd Llun

Y Rheilffordd Fan

Mae Trên Stêm Cymdeithas Beirianyddol y Rheilffordd fân a’r Cwmni Rheilffordd fân yn darparu adloniant gwych i’r teulu ym Mharc Cyfarthfa. 

 

Lleolir ger prydferthwch Llyn Cyfarthfa ac mae’r teithiau sy’n llawn hwyl yn rhedeg trwy’r flwyddyn. Bydd teithiau thematig yn cael eu hysbysebu’n rheolaidd. 

Y Llyn

Adeiladwyd y llyn yn 1824 fel rhan o’r cynllun rhamantaidd gwreiddiol.Y llyn oedd ac yw o hyd un o brif nodweddion y parc. Roedd e hefyd yn gronfa hanfodol yn darparu dŵr i’r gwaith haearn. Honnir bod y llyn a’i gamlas wedi costio cymaint â’r Castell I’w adeiladu. Mae’r llyn yn cael ei bwydo gan Gamlas Chwarel y Gurnos sydd yn 1.6km o hyd ac a elwir weithiau y Leat, mae’n llifo uwchben y dramffordd a adeiladwyd yn 1792.

 

Ar ryw adeg ar ȏl 1902, pan brynwyd y parc gan Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful at ddefnydd fel parc cyhoeddus, adeiladwyd tŷ cychod ble byddai ymwelwyr yn llogi cwch rwyfo am y prynhawn. 

Canolfan Cyfarthfa

Mae adnewyddiad diweddar  y Ganolfan ym Mharc Cyfarthfa yn cynnig lleoliad delfrydol ar gyfer eistedd yn ôl ac ymlacio ac edrych ar y plant yn mwynhau yn yr ardal chwarae newydd a’r Pad Sblasio.   

 

Mwynhewch y golygfeydd o’r parc o’r caffi newydd sydd ag ardal wedi ei decio ac ardal fwyta yn yr awyr agored.

 

Mae’r Ganolfan hefyd yn cynnig toiledau ac ystafelloedd newid hygyrch ar gyfer y Pad Sblasio.

Tŷ Iâ Cyfarthfa

Mae un o drysorau cudd Parc Cyfarthfa wedi ei adnewyddu. Gallai’r adeilad 30 troedfedd o ddyfnder storio hyd at 18 tunnell o iâ o’r gaeaf hyd yr hâf. Credir y byddai Iâ ac eira yn cael ei gasglu o’r pyllau uwchben y castell. Byddai hwn wedyn yn cael ei ddefnyddio i lenwi y tŷ iâ  ac yn yr hâf byddai blociau o iâ yn cael eu rhoi yn y castell i gadw’r ystafelloedd yn oer.

Y Tŷ Gwydr

Mae’r tai gwydr ym Mharc Cyfarthfa yn nodwedd ers blynyddoedd. Cannwyll llygaid y prif arddwr Mr Bartram, cynhyrchodd y tai gwydr blanhigion, goed palmwydd,pînafala cynyrch bwyd eraill. Gwobrwywyd llawer yn ystod Sioe Flodau yn yr 1860au.

 

Adroddodd y Cardiff and Merthyr Guardian ar Awst 19 1864 -

 

Y SIOE FLODAU

 

Roedd ceirios gyda chroen sgleiniog a gwsberis yn aeddfedu.Melon a phinafal hefyd, y goreuon gan Mr Crawshay.

 

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd, defnyddiwyd y gerdddi i gyhyrchu bwyd fel rhan o’r ymgyrch Tyfu i Ennill. Yn ddiweddarach mae’r tai gwydr wedi eu defnyddio ar gyfer y planhigion ar gyfer parciau a mannau agored y Sir.

Pyllau Cyfarthfa

Roedd y pyllau sydd newydd eu hadafer yn chwarae rhan allweddol wrth gadw Castell Cyfarthfa yn hunan-gynhaliol. Roedd tri diben iddynt.

 

Fel pyllau cydbwysedd a adeiladwyd yn fuan ar ol y castell i reoli lefel y dŵr yn y llyn

Ar gyfer dyfrahau y tai gwydr trwy system o bibelli cerrig a symp.

I ailgyflenwi y tŷ iâ   yn ystod y gaeaf.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2024