Llwybr gwyrdd hiraf y DU.
BikePark Wales cyrchfan feicio benodol fwyaf y DU.
Mae’r cysyniad yn syml, cyrchfan sgïo heb yr eira gyda llwybrau beicio troellog yn ymgordeddu i waelod y llethrau. Ychwanegwch adrenalin a llawer o hwyl a dyna chi. BikePark Wales ffordd gyffrous o dreulio diwrnod ym mynyddoedd Cymru.
Mae rhwydwaith anhygoel yma o 45 llwybr ar gyfer beicwyr o bob gallu. O lwybrau llyfn eang, i gorneli tyn caregog, llwybrau gyda neidiau a chwympau a llwybr gwyrdd hiraf y DU.
Gyda gwasanaeth cerbyd i’r copa i drosglwyddo beicwyr i’r cychwyn, offer a beiciau i’w rhentu, hyfforddiant, tywys,café ar y safle, BikePark Wales yw’r gyrchfan ddelfrydol i fwynhau diwrnod bythgofiadwy.