Neidio i'r prif gynnwy

Rheilffordd Mynydd Brycheiniog

Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu – un o “Drenau Bach, Gwych Cymru.”

Rheilffordd Fynyddig Aberhonddu – un o “Drenau Bach, Gwych Cymru.”

 

Mae’n trên bach, gwych yn mynd â chi ar daith sydd yn dilyn ôl traed ein cyndeidiaid. Mae’n nadreddu drwy’r cwm ar ran o lwybr gwreiddiol rheilffordd Aberhonddu i Ferthyr a adeiladwyd ym 1859.

 

Mae’r daith yn mynd â chi i ucheldir Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae’n teithio drwy Bontsticill ac ar hyd Cronfa Ddŵr Taf Fechan cyn dringo’n serth i Fannau Brycheiniog gan gyrraedd copa y llinell wreiddiol yn Nhorpantau, 1313 troedfedd, uwch lefel y môr.

 

Mae’r hen drên yn teithio’n ddi-dor o Bant i Dorpantau. Mae’r daith yn ôl o Dorpanatau yn stopio yng ngorsaf brydferth Pontsticill. Yma, gallwch ymweld â’r Caffi ger y llyn a gogoneddu ar yr olygfa. Gallwch gerdded yn hamddenol ar hyd cronfa ddŵr Pontsticill neu adael i’r plant fwynhau yn yr ardal chwarae.

 

Yn y brif orsaf, ym Mhant gallwch ymweld â’r ystafelloedd te, trwyddedig ar gyfer lluniaeth neu ddod o hyd i gofroddion yn y siop. Gallwch hefyd ymweld â’n gweithdy lle y mae crefftwyr medrus yn atgyweirio peiriannau locomotîf stêm a’u cerbydau. 

Uchafbwyntiau

 

 

Beth yw e?

Trên Bach Stêm Treftadaeth.

 

Ar gyfer pwy?

 

Pawb - Teuluoedd, Grwpiau, Ysgolion, Twristiaid ac unigolion brwdfrydig sy’n ymddiddori mewn rheilffyrdd.

 

Lle?

 

Arwyddwyd o’r A465 a’r A470 ger Merthyr Tudful – dilynwch yr arwyddion a’r symbolau ar gyfer Rheilffordd Mynydd.

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2025