Nid oes prinder lle ym Mannau Brycheiniog. Archwiliwch y tirluniau gwyllt ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn ystod y dydd ac edmygu’r awyr ar noson serog gyda’r nos. Ymlaciwch gyda llyfr yng ngerddi taclus Parc Cyfarthfa neu wylio’r bywyd gwyllt ym Mharc Taf Bargoed ger Treharris, a oedd arfer bod yn safle tri phwll glo, ond sydd bellach yn barc gwobrwyedig â Gwobr Baner Werdd. Pa fath bynnag o wagle rydych yn ei fwynhau fwyaf, byddwch yn ei ganfod yma.

 

I’r Seryddwyr: Mae Bannau Brycheiniog ymhlith y saith unig Warchodfa Awyr Dywyll sydd yn y byd. Mae cronfeydd dŵr tawel Pontsticill a Llwyn yn fannau atmosfferig ar gyfer syllu ar awyr y nos. Cewch eich synnu gan beth welwch chi hyd yn oed heb delesgop! Nid oes unrhyw gyfleusterau arbennig yn y safleoedd hyn felly ewch â stôl fach gyda chi a lapiwch yn gynnes yna eisteddwch yn ôl a syllu fry. Os hoffech roi cynnig ar delesgop neu weld planhigfa symudol, edrychwch allan am y digwyddiadau syllu ar y sêr achlysurol sy’n cael eu rhedeg gan gymdeithasau seryddol lleol.

 

www.breconbeacons.org/stargazing

www.hovastronomy.org.uk

 

I’r Adarwyr: Rhaid ymweld â Pharc Taf Bargoed! Dyma fan poblogaidd ar gyfer gwylio adar yn ne’r fwrdeistref sirol. Mae llynnoedd y parc baner werdd hwn yn denu’r trochwr, glas y dorlan, iâr fach y dŵr, cotiar, gwyach bach, hwyaden wyllt, a’r crëyr glas. Ar un adeg roedd tri phwll glo ar y safle, ond mae ansawdd y dŵr bellach yn ardderchog i fywyd gwyllt - caiff ei ffiltro drwy un o wlâu brwyn mwyaf Ewrop. Caiff dros 60 rhywogaeth o adar ac 20 rhywogaeth o ieir bach yr haf eu denu at y cyfoeth o gynefinoedd yn y parc hwn. Ble’r roedd glo yn cael ei fwyngloddio ar un adeg, bellach gwelir y barcud coch yn hofran uwchben. 

 

I Haneswyr:  Archebwch le ar y teithiau cerdded tywys rheolaidd o gwmpas Parc Cyfarthfa ar y dydd Iau cyntaf o bob mis. Bydd ceidwad parc yn eich arwain a byddwch yn dysgu am hanes y parc trawiadol 160 erw a’r meistri haearn, y Crawshays. Archebu lle: 07912774631.

 

I Ffotograffwyr:  Dewch i dynnu llun golygfeydd helaeth a golau anhygoel Bannau Brycheiniog. Mae rhai o’r golygfeydd o’r copaon canolog (Corn Du, Pen y Fan a Cribyn) o Gronfa Ddŵr Pontsticill. Bydd gweithdai ffotograffiaeth o dan arweiniad arbenigwyr lleol yn eich helpu i dynnu’r llun perffaith o’n copaon, afonydd a hyd yn oed y llwybr llaethog.

 

I Deuluoedd: Ar hyd taith gerdded drwy Goedwig Penmoelallt gallwch weld cerfluniau a cheir amrywiaeth ardderchog o daflenni gweithgareddau i blant i’w lawrlwytho o . Parc Taf Bargoed yw’r lle i fod yn ystod y gwyliau ysgol ar gyfer gwylio adar, dipio pyllau dŵr ac adnabod trychfilod a theithiau ystlumod. 

 

I’r Garddwyr: Mae Fferm Pontygwaith yn ardd 4 ½ erw gyfagos â Thaith Taf yn Nhreharis. Gallwch fwynhau’r borderi blynyddol, tro o amgylch y llyn, yr ardd rosynnau a’r ardd Siapaneeg sy’n amgylchynu’r ffermdy sy’n dyddio o’r 17ganrif, ac edmygu’r bont gefn crwca sy’n croesi afon Taf. Cyrhaeddwch mewn car neu alw heibio wrth gerdded ar hyd Taith Taf. Croeso i ymwelwyr o fis Ebrill i fis Awst.

 

07784871502 www.ngs.org.uk