Merthyr Tudful yw’r cyrchfan perffaith os ydych chi wrth eich bod yn yr awyr agored â’i milltiroedd lu o draciau golygfaol syfrdanol, llwybrau tynnu ymyl camlesi a theithiau hanesyddol i weddu pob gallu ac oedran.
Taith Taf : Mae Taith Taf yng nghalon De Cymru. Ar un adeg roedd y llwybr yn gyswllt trafnidiaeth hanfodol ac mae’n ymgorffori hanes yr ardal wedi ei gydweddu â milltiroedd a milltiroedd o harddwch naturiol.
Mae Taith Taf yn mynd â chi ar daith 55 milltir o ymyl y dŵr ym Mae Caerdydd i fyny at dref farchnad Aberhonddu drwy galon pentrefi Merthyr Tudful. Mae’r daith hanesyddol yn lled ddilyn camlas hanesyddol Morgannwg gyda llwybr sy’n cynnwys amrywiaeth eang o dirluniau trefol a maestrefol yn ogystal ag amgylchiadau mwy heddychlon a hamddenol. Gan fod cyfradd mawr o’r cwrs heb draffig, mae Taith Taf yn cynnig cyfle grêt ar gyfer cerdded, seiclo a marchogaeth ceffylau.
 chalon Taith Taf yn rhedeg drwy Ferthyr Tudful, ceir achlysuron delfrydol i ddefnyddwyr gael seibiant am damaid o ginio neu archwilio llawer o’r pentrefi a’r safleoedd hanesyddol sydd wedi eu lleoli gerllaw.
Llwybr Celtaidd : Mae’r Llwybr Celtaidd yn rhwydwaith wedi ei ymroi i seiclo sy’n dilyn llwybr drwy ddwyrain, de a gorllewin Cymru. Yn 377 milltir o hyd, heb draffig gan fwyaf ac yn cwmpasu peth o’r golygfeydd mwyaf amrywiol i’w gweld gan gynnwys porth dwyrain Cymru ar draws i Barc Cenedlaethol Penfro a thrwy’r llwybrau seiclo gorau yn y DU yn ôl y Guardian. Mae’r Llwybr Celtaidd yn rhywbeth sy’n rhaid i bob un sy’n frwd dros seiclo rhoi cynnig arno.
Taith Trevithick: mae Taith Trevithick, sy’n dechrau yng nghalon Merthyr Tudful, yn dathlu dau gan mlwyddiant y trip arloesol cyntaf ‘Oes Ager’ hwnnw ym 1804 ac mae’n parhau i gynnwys Twnnel gwreiddiol Trevithick sy’n atyniad ynddo’i hunan. Gellir gweld gwaith celf lleol ac ardaloedd o harddwch naturiol ar hyd y llwybr hanesyddol gyda rhai golygfeydd anhygoel i’w darganfod o gwmpas pob cornel.
Mae’r llwybr yn dathlu’r daith gyntaf a wnaed gan locomotif ager neu stêm wrth dynnu llwyth ar reiliau haearn ym 1804. Dyma ragflaenu oes y rheilffordd a newidiodd y byd yn y 19 ganrif. Ar 21 Chwefror, 1804, gwnaeth locomotif y Penydarren, a gynlluniwyd gan y dyfeisiwr o Gernyw, Richard Trevithick ar gyfer Samuel Homfray, meistr gwaith haearn Penydarren, dynnu llwyth o 10 tunnell o haearn a 70 o ddynion naw milltir i lawr Dyffryn Taf – hyn oll am fet.
Teithiodd y siwrnai hanesyddol o Waith Haearn Penydarren i Navigation ble’r ymunodd â Chamlas Morgannwg gan gysylltu calon ddiwydiannol Merthyr Tudful â phorthladd Caerdydd a gweddill y byd. Ar hyd y daith mae nodau a cherrig milltir sy’n dynodi arwyddocâd hanesyddol yr amrywiol leoliadau wrth i chi ddilyn y llwybr ar hyd y daith naw milltir.
Felly beth am roi cynnig ar Daith Trevithick a cherdded drwy hanes wedi ei amgylchynu gan harddwch natur.
FFAITH: Cafodd Twnnel Trevithick ei greu ar gyfer y daith locomotif stêm cyntaf ac yn ddadleuol dyma dwnnel rheilffordd hynaf y byd, ar gyfer injan ar reiliau sy’n propelio ei hun.
Bike Park Wales: Parc beic mynydd maint llawn cyntaf y DU wedi ei osod mewn coedwig ar ymyl y dyffryn sy’n edrych dros Ferthyr Tudful. Dychmygwch fangre sgïo heb eira a newidiwch y pistes am gymysgedd amrywiol o lwybrau naturiol sy’n troelli tuag at waelod y mynydd. Wedi ei adeiladu gan feicwyr ar gyfer beicwyr, mae e gyda’r gorau yn y byd.
Wedi ei ddylunio i wneud beicio mynydd yn hygyrch i bawb gan gynnwys plant ifanc. Ydy, mae’n lleoliad o’r radd flaenaf yn y byd sydd wedi croesawu Pencampwriaethau Cenedlaethol Downhill, ond mae hefyd yn ddiwrnod allan gwych i bawb sy’n gallu reidio beic ac a hoffai rhoi gynnig ar un o chwaraeon mwyaf ar ei dyfiant yn y DU.
Oddi ar yr A470 wrth gylchfan Pentrebach, Merthyr Tydfil. Mae gorsaf drên Pentrebach gerllaw.
Ewch i www.bikeparkwales.com am ragor o wybodaeth.