Mae Geocaching yn cyfuno mynd am dro a gêm!
Mae Geocaching yn cyfuno chwarae gêm ar leoliad, rhwydweithio cymdeithasol, helfa drysor, mordwyo GPS a hamdden awyr agored i greu gweithgaredd llawn hwyl i’r teulu. Cafodd ei greu gan Dave Ulmer yn 2000 a bellach ceir bron i 2 filiwn geocaches wedi eu cuddio ledled y byd a llawer mwy yn ardal Merthyr sydd yn aros i gael eu darganfod.
Felly, beth yw geocache? Dyma’r enw am drysor sydd angen i chi ddod o hyd iddo er mwyn cwblhau’r gêm. Gall y caches amrywio’n fawr mewn siâp a maint (o flwch sydd fodfedd o uchder i focs mawr) a gallant fod yn guddiedig neu’n amlwg yn syth. Er mwyn dod o hyd iddynt, bydd angen i chi gofrestru ar-lein a rhoi cyfesurynnau yn eich GPS/ffôn. Yna, gall yr helfa ddechrau.
Pan fydd gennych gyfle, dylech gwblhau llyfr cofnodion y cache (bydd gan bob cache, mawr neu fach lyfr cofnodion) a chofnodwch eich profiad ar lein. Os oes angen i chi fynd ag eitem, gofynnir i chi adael rhywbeth sydd gyfwerth neu’n fwy gwerthfawr.
Wrth i chi ddechrau ar eich antur geocaching, gwisgwch yn addas ar gyfer mynd allan, cadwch at lwybrau cerdded a pharchwch breifatrwydd eiddo preifat landlordiaid gan ddilyn y cod cefn gwlad o hyd.
Goegelcio ym Mharc Cyfarthfa, gweithgaredd hanner tymor gwych.
Mae Heini Merthyr Tudful mewn partneriaeth ag Ymddiriedolaeth Hamdden Merthyr wedi datblygu ymgyrch hyrwyddo i dynnu sylw at geogelcio yn y parc.
Gallwch nawr logi uned GPS o amgueddfa Cyfarthfa a'i ddefnyddio i fynd ar helfa drysor digidol trwy gydol parc Cyfarthfa. Sylwch fod angen blaendal wrth oedolyn ar gyfer yr unedau GPS yn nerbynfa yr amgueddfa.
Hoffai Heini Merthyr Tudful ddiolch i brosiect dynion Gurnos a'r prosiect dewchtu allan am holl waith ar gynnal a datblygu'r gweithgaredd awyr agored gwych hwn ym Merthyr Tudful