FFAITH: Mae Afon Taf yn cynnal nifer o bysgod mudol yn cynnwys yr eog, sewin a’r llysywen.
Cyfuniad o ddwy afon yw’r Taf mewn gwirionedd, sy’n tarddu ym Mannau Brycheiniog ac yn cael eu rheoli gan gronfeydd yn ardal ogleddol Merthyr Tudful a chwrdd yng Nghefn Coed i greu’r ddyfrffordd gyfoethog hon. Mae Afon Taf yn enwog fel un o’r prif afonydd brithyll yng Nghymru gan ddarparu pysgota genwair o ansawdd uchel drwy gydol y tymor. Maint cyfartalog brithyll o Afon Taf yw tua hanner pwys a thri chwarter pwys (½ lb a ¾ lb) ond mae pysgod sy’n llawer mwy o faint yn bresennol gydag enghreifftiau o bysgod 3lb a 4lb yn cael eu dal yn achlysurol.
Mae llawer o lynnoedd a chronfeydd dŵr i’w pysgota ym Merthyr Tudful hefyd a gellir prynu trwydded ddydd ar gyfer pysgota am ddiwrnod. Rhaid prynu’r tocynnau dydd cyn pysgota a dim ond cymryd dau frithyll yn ôl dynodiad tocyn un diwrnod.
Ewch i www.mtaa.co.uk am fwy o fanylion.