Cyfraddau -
Darganfyddwch y Porthdy Ymyl y Llyn
Mae Porthdy Lakeside yn gartref gwyliau pedwar seren a gaiff ei redeg gan deulu ac a leolir yn agos at ddwy gronfa ddŵr, sef Pentwyn a Phontsticill, yng nghalon Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Wedi ei osod yn nhiroedd anghysbell a heddychlon eglwys hanesyddol Santes Agnes, Dolygaer; mae’r cartref gwyliau hwn wedi ei leoli mewn man delfrydol ar gyfer beicio mynydd, seiclo, pysgota, ymweld â threfi neu bentrefi lleol ac wrth gwrs archwilio Bannau Brycheiniog ar droed, a dringo copaon enwog Bannau Brycheiniog sef Pen y Fan, Cribyn a Chorn Du.