Sut wnaeth e ddechrau?
Ar 21 Hydref 2017 yng Nghastell Cyfarthfa, gwnaeth Comisiwn Dylunio Cymru ac Ysgol Bensaernïaeth Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd ddod â 60 o feddyliau creadigol at ei gilydd – penseiri, penseiri tirlun, cynllunwyr, arbenigwyr treftadaeth ac artistiaid – i rychwantu’r posibiliadau oddi fewn i’r dref a’r tirlun amgylchynol mewn ymarfer gweledigaethol powld a oedd yn ceisio cael ffyrdd o wneud asedau treftadaeth Merthyr Tudful i fod yn fwy o beth fel cyfanwaith gyda’i gilydd.
Yn ystod y Charrette – sef diwrnod dwys o gynhyrchu syniadau – ystyriwyd sut gallai Castell Cyfarthfa, â’i dirlun estynedig a’i dreftadaeth adeiledig ddyfod yn brofiad ac yn gyrchfan rhyngwladol o ansawdd i ymwelwyr, i wella ar hyrwyddo ei ymwybyddiaeth o le a oedd eisoes yn amlwg. Ystyriwyd ffyrdd newydd y gallai’r asedau canolog hyn gael eu cysylltu ag asedau eraill ledled y dref a thu hwnt i gataleiddio adfywio a thwristiaeth, gan arwain at yr effaith fwyaf a dychwelyd budd go iawn i’r cyhoedd.
Pam Nawr?
Cafodd Merthyr Tudful ei chyflwyno â chyfle euraid yn sgil datblygu Dinas Ranbarth yn Ne-ddwyrain Cymru a chyhoeddi Parciau Rhanbarthol y Cymoedd, i ddefnyddio ei thirlun a’i hasedau treftadaeth i naddu lle i’w hun fel cyrchfan y gellir ei gymharu â llefydd eraill yn Ewrop – angor-fan ar Lwybrau Ewropeaidd o Dreftadaeth Ddiwydiannol – yn ogystal â phrif gyfrannwr at ddinas ranbarth sydd wedi ei chydbwyso’n well rhwng ei harfordir a’i chefn gwlad.
Gyda’r weledigaeth a’r uchelgais gywir, ynghyd ag adnoddau digonol, targedig a rheoli prosiect da, ceir potensial i greu atyniad i ymwelwyr a fyddai’n drawsnewidiol yn ei effaith ar ddelwedd ac economi’r dref ac yn ychwanegiad pwerus at ddiwydiant twristiaeth Cymru.
© Merthyr Tydfil CBC - 2018