Canolfan BikePark Wales yw cyrchfan beicio mynydd pwrpasol fwyaf y DU.
Mae’r cysyniad yn un hawdd. Meddyliwch am gyrchfan sgïo, tynnwch yr eira a’r llethrau sgïo oddi yno a’u cyfnewid am lwybrau beicio sy’n nadreddu i lawr i waelod y mynydd. Ychwanegwch adrenalin a llawer iawn o hwyl ac rydych yno! Mae Bike Park Wales yn ffordd wych i dreulio diwrnod ym mynyddoedd Cymru.
Mae yma rwydwaith anhygoel o 40 llwybr ar gyfer beicwyr o bob safon yn BikePark Wales. Dewch yma i drio’r llwybrau uchel, y rhannau creigiog, y neidiadau a’r rhannau serth a llwybr gwyrdd, llethrog hiraf y DU.
Mae yma wasanaeth bws mini i gludo beicwyr i frig y llwybr, beiciau ac offer i’w llogi, hyfforddiant, tywyswyr a chaffi. BikePark Wales yw’r gyrchfan ddelfrydol ar gyfer diwrnod allan gwych.
Llwybr Beicio i Ddechreuwyr Hiraf y DU yn agor yma ym Merthyr.
Uchafbwyntiau:
- NEWYDD ar gyfer 2021 -
- Kermit - Llwybr Beicio i Ddechreuwyr Hiraf y DU
- Canolfan Ymwelwyr – prosesu cyflym er mwyn i feicwyr fynd allan yn gyflym ar y llwybrau
- Parcio ychwanegol – 45 lle parcio newydd sy’n gweddu i’r amgylchedd
- Caffi, siop feiciau, golchfan ar gyfer beiciau a thoiledau.
- Gwasanaeth lifft i fyny – cewch chi a’ch beic eich cludo i frig y mynydd mewn bws mini.
- 40 llwybr, yn amrywio o lwybrau llif i lwybrau technegol.
Ar gyfer pwy?
Ar gyfer beicwyr mynd canolradd i feicwyr mynydd mwy profiadol, gall BikePark Wales gynnig profiad beicio anhygoel sy’n wahanol i unrhyw beth yr ydych wedi ei brofi o’r blaen yn y DU.
Lle?
Oddi ar yr A470 ar gylchfan Pentrebach, Merthyr Tudful. Mae gorsaf drenau Pentrebach wrth ymyl hefyd.
Uchafbwyntiau:
- Gwasanaeth Cludo – cewch chi a’ch beic eich cludo i frig y mynydd mewn bws mini.
- Canolfan ymwelwyr sy’n cynnwys caffi, siop feiciau, golchfa feiciau a thoiledau.
- 32 llwybr yn amrywio o lwybrau llif i ddisgyniadau mwy technegol.
- System raddio llwybrau clir o Lwybrau Gwyrdd i Lwybrau llinell Pro.
- Dewch â’ch beic eich hun neu llogwch feiciau Trek o ansawdd da yn y parc.
- Hyfforddwyr cymwysedig er mwyn eich cynorthwyo i ddatblygu eich sgiliau beicio.
- Ar agor 7 diwrnod yr wythnos