Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Darganfod Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Merthyr Tudful – cyn brif ddinas Haearn y byd!

Comisiynwyd ac adeiladwyd Castell Cyfarthfa yn 1824-25 ar gyfer y Meistr Haearn,’ William Crawshay II, sef un o’r ffigurau mwyaf dylanwadol ar y pryd yng Nghymru. Mae’n awr yn gartref i Amgueddfa ac Oriel Gelf boblogaidd sydd ar agor i’r cyhoedd trwy gydol y flwyddyn.  Gall ymwelwyr fwynhau rhaglen flynyddol o deithiau cerdded, sgyrsiau, gweithdai ac arddangosfeydd neu archwilio’r Amgueddfa sy’n brawf o ysbryd y dyn gweithiol, ysbryd Merthyr a’r stori sy’n sicrhau lle pwysig i Ferthyr yn hanes Cymru a Phrydain gyfan. Mae lluniaeth ar gael yn Ystafelloedd Te Cyfarthfa sydd yn y Castell.  

Arferai’r plasty castellog, mawreddog hwn edrych dros ei weithfeydd haearn llwyddiannus ac mae’n cael ei adnabod fel “cofadail mwyaf trawiadol yr Oes Haearn Diwydiannol yn Ne Cymru.” Yn 1910, cafodd ei ddatblygu yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa a heddiw, mae’n gartref i arteffactau sy’n cysylltu Merthyr Tudful â’r gorffennol - yn amrywio o gasgliad o waith celf unigryw i chwiban stêm cyntaf y byd.  

Mae Amgueddfa Castell Cyfarthfa yn cynnwys teithiau sain, tywys mewn nifer o wahanol ieithoedd a gall ddarparu ar gyfer grwpiau tywys/grwpiau unigol os ofynnir am hynny o flaen llaw. Mae yma hefyd Ystafell De boblogaidd ac mae amrywiaeth o fwydydd cartref a diodydd.

Archebwch eich ymweliad â’r amgueddfa a’r oriel gelf yma!

Ar hyn o bryd rydym ar agor dydd Mawrth - dydd Sul 10 a 1630 o'r gloch (mynediad olaf am 1600 o'r gloch)
Ar gau dydd Llun

Book your museum ticket HERE!

Archwilio

Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

  • Amgueddfa ac Oriel Gelf Castell Cyfarthfa

Darganfod Merthyr Tudful

Ein Atyniadau

Beth sy'n digwydd ym Merthyr Tudful

Y newyddion diweddaraf

🛀🏽 Gwesty moethus yn agor ar safle becws hanesyddol lleol ym Merthyr Tudful 🏨

🛀🏽 Gwesty moethus yn agor ar safle becws hanesyddol lleol ym Merthyr Tudful 🏨

🚂 🌄 Archwilio Taith Trevithick: Etifeddiaeth Richard Trevithick 🚂 🌄

© Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful 2023