Clwb Rygbi Merthyr yw un o glybiau chwaraeon hynaf Merthyr Tudful. Cafodd y gêm gyntaf ei chofnodi ym 1876 yn ei maes chwarae gwreiddiol, Plymouth Ground ym Mhentrebach. Mae ei gartref bresennol yn Y Wern yn Ynysfach, a gafodd ei estyn yn ddiweddar â £1.13m i adeiladu stand 700 sedd bob tywydd, maes chwarae pob tywydd, llifoleuadau, ystafelloedd newid i ddynion a merched, cyfleusterau hyfforddi pwysau a chanolfan ieuenctid ddynodedig.
Yn 2016-17, cafodd ‘y Dynion Haearn’ eu tymor mwyaf llwyddiannus hyd yma, gan ennill Uwch Gynghrair Principality URC yn ystod eu tymor cyntaf yn y digwyddiad. Hefyd, llwyddon nhw i gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan SWALEC.