Enwyd Clwb Golff Castell Morlais ar ôl y castell a adeiladwyd ym 1270 gan Gilbert de Clare, Iarll Caerloyw ac Arglwydd Morgannwg. Mae adfeilion y castell i’w gweld ar hyd ochr dde’r drydedd ffordd deg, ac mae’r golygfeydd panoramig o’r brig yn arbennig iawn.
Mae gan y clwb ardal ymarfer dan do o’r radd flaenaf, a chwrs byr academi tri thwll sy’n haws a mwy diogel i chwaraewyr ifanc. Mae yno dŷ clwb sy’n cynnwys bwyty a bar a siop golff dda.
Os hoffech aros gerllaw, chewch chi unman agosach na ffermdy hunanarlwyo’r clwb a adnewyddwyd yn ddiweddar ac sydd â lle i hyd at chwech o westeion.